Mae dwy feillionen wen, un feillionen goch, dau rygwellt Eidalaidd ac wyth rhygwellt lluosflwydd wedi’u hychwanegu at y Rhestr Glaswellt a Meillion Cymeradwy i Gymru a Lloegr 2025/26 (RGCL).
Mae cynnwys y tri ar ddeg math o laswellt a meillion yn y llawlyfr blynyddol, RGCL yn ychwanegu cryfder at yr opsiynau sydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru, wrth iddynt barhau i wella effeithlonrwydd cynhyrchu, yn ogystal â chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cyfrannu at yr RGCL, yn ogystal ag AHDB a bridwyr planhigion drwy’r Gymdeithas Brydeinig o Fridwyr Planhigion (BSPB) a’r Gymdeithas Laswelltir Brydeinig (BGS).
Meddai Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil, Datblygu a Chynaliadwyedd HCC:
“Mae’r RGCL yn llyfryn defnyddiol i ffermwyr Cymru; gall y llawlyfr gael ei ddefnyddio i wneud y mwyaf o’r amrywiaeth o fathau sydd ar gael a’r cymysgeddau gwahanol sy’n addas ar gyfer diwallu anghenion eu da byw a’u tir. Mae mathau ar gael i siwtio bob pwrpas a phob fferm.
“Gall yr RGCL helpu ffermwyr hefyd i ddeall nodweddion perfformiad y mathau gwahanol, yn cynnwys maint y cnwd, eu gallu i oroesi, ansawdd, ymwrthedd i glefydau a dewis y rhai gorau i siwtio eu system ffermio. Yn ogystal, mae’n darparu gwybodaeth i helpu i reoli ail-hadu a gwneud y mwyaf o gynhyrchiant pob tywarchen.”
Mae Rhys Edwards o Blackmill, Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio’r rhifyn diweddaraf o’r RGCL. Meddai:
“Rwy’n defnyddio’r llawlyfr diweddaraf bob blwyddyn i fy helpu i ddewis rhygwellt a’r mathau gorau o feillion gwyn ar gyfer pori’r defaid. Rwy’n ceisio lleihau mewnbynnau i’r fenter ddefaid drwy bori ŵyn ar laswellt o ansawdd uchel. Mae ail-hadu, yn fy marn i, yn werth chweil ar gyfer gwella perfformiad fy niadell.”
Mae’r mathau’n cael eu profi mewn plotiau yn IBERS, Aberystwyth ac yna’n cael eu cymharu yn erbyn plotiau treialu eraill yn Lloegr. Maent yn cael eu tyfu tu allan mewn ardaloedd o gynhyrchu glaswelltir. Maen nhw wedi’u hychwanegu i’r RGCL yn dilyn oleiaf chwe mlynedd o brofion annibynnol a thrylwyr, dan amrywiaeth o amodau, mewn systemau rheoli cadwraeth a phori.
Mae’r mathau newydd wedi derbyn statws wedi’u hargymell dros dro wedi iddynt arddangos gwelliant clir o’i gymharu â’r mathau sydd eisoes ar y rhestr. Byddant yn cael eu hasesu eto ar ôl pum mlynedd.
Gellir lawrlwytho’r RGCL o wefan HCC, neu gall copïau caled gael eu postio drwy gysylltu â swyddfa HCC: info@hybucig.cymru / 01970 625050.
Mae’r llyfryn hefyd ar gael ar wefan: britishgrassland.com/rgcl





