Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd allforwyr cig coch o Gymru yn mynd i’r Unol Daleithiau i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI yn ystod ymweliad wedi’i hwyluso gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Bydd Cig Oen Cymru yn ymddangos yn y Gynhadledd Gig Flynyddol (AMC) a gynhelir eleni yn Nashville, Tennessee yn ystod 18-20 Mawrth.  Disgwylir i dros 1,900 o gynrychiolwyr o bob rhan o sector gig yr Unol Daleithiau fod yn bresennol.

Caiff yr achlysur ei ddefnyddio gan HCC ac allforwyr cig coch Cymru i rwydweithio a chysylltu â phrynwyr a mewnforwyr o America, gan dynnu sylw at rinweddau naturiol a chynaliadwyedd Cig Oen Cymru, yn ogystal â’i flas nodedig.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “AMC yw’r digwyddiad allweddol yng nghalendr cig America, ac mae’n hanfodol bod HCC yno i ddatblygu’r galw yn y farchnad flaenoriaethol hon er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i ffermwyr ac allforwyr Cymru.

“Mae Cig Oen Cymru yn gynnyrch premiwm sydd â blas eithriadol a rhinweddau cynaliadwy. Caiff ei gynhyrchu â balchder gan ffermwyr Cymru ac mae’n rhagori o ran cynaliadwyedd a lles anifeiliaid yn y farchnad fyd-eang. Mae hyn i gyd yn ychwanegu at flas  a phrofiad bwyta nodedig Cig Oen Cymru.

Mae’r Unol Daleithiau yn mewnforio llawer mwy o gig nag yw’n ei allforio ac mae dadansoddiad ac ymchwil HCC ei hun yn awgrymu y gallai’r farchnad gig oen i UDA fod yn werth £20 miliwn i Gymru.

Allforiwyd y llwyth cyntaf o gig oen i’r Unol Daleithiau ym mis Hydref 2022 o ffatri brosesu yng Nghymru, yn dilyn codi gwaharddiad a oedd wedi para am ugain mlynedd. Oddi ar hynny mae HCC wedi gweithio, ochr yn ochr ag allforwyr, i feithrin ymwybyddiaeth, cysylltiadau a chwsmeriaid yn yr UD.

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol