Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae corff ardoll cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC) yn parhau â’i ymgyrch i fynd â negeseuon am gig coch i ysgolion ac  athrawon drwy arddangos mewn cynhadledd addysg genedlaethol.

Bydd HCC yn arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol, a gynhelir yng Nghaerdydd ddydd Gwener 4 Hydref, pan fydd yn siarad ag athrawon am bob agwedd ar ffermio a chynhyrchu cig coch yng Nghymru, yn ogystal â rhannu adnoddau i athrawon, gan gynnwys y cylchlythyr diweddaraf ar eu cyfer a fideos newydd.

Mae'r digwyddiad yn agored i weithwyr proffesiynol ar draws y sector addysg, gan gynnwys athrawon cynradd ac uwchradd, gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a staff  addysg bellach ac uwch. Mae'r digwyddiad yn cynnig seminarau a chyfleoedd i rwydweithio, yn ogystal ag arddangosfa.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, sy’n arwain gwaith addysgol HCC: “Mae arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn gyfle gwych i ni gwrdd ac ymgysylltu ag athrawon ac addysgwyr Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein hadnoddau dosbarth diweddaraf a hyrwyddo ein cylchlythyr i athrawon, ‘The Kitchen Classroom / Gwersi o’r Gegin’ gyda’r cynrychiolwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth am gig coch yng Nghymru.”

Mae cig coch fel Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn naturiol gyfoethog mewn protein ac yn isel mewn sodiwm a gallan nhw chwarae rhan bwysig mewn diet cytbwys.  Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o faetholion sy'n cynnig ystod eang o fanteision iechyd a ffordd o fyw, megis haearn, magnesiwm, sinc a fitaminau B.

Ychwanegodd Elwen: “Mae ein hadnoddau yn ymdrin â phynciau iechyd a maeth yn ogystal â chynhyrchiant a chynaliadwyedd  ffermio ac felly maen nhw’n addas ar gyfer ystod o arbenigwyr mewn gwahanol bynciau. Hefyd, cafodd ein hadnoddau eu teilwra ar gyfer cyfnodau allweddol penodol i’w gwneud mor hawdd â phosibl i athrawon eu defnyddio. Maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim ac ar gael yn ddwyieithog, hefyd.

“Rydyn ni’n gwybod bod gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf yn hanfodol, er mwyn sicrhau eu bod yn deall o ble mae bwyd yn dod a pha effaith mae gwahanol fwyd yn ei gael ar ein diet a’n hiechyd. Drwy weithio ac ymgysylltu ag athrawon, ein nod yw cyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosibl a darparu adnoddau a gwybodaeth sy’n seiliedig ar ffeithiau.”

Er mwyn cofrestru i fynychu’r digwyddiad neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.nationaleducationshow.com

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol