Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae ffermwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu hannog i ymuno â seminar i drafod ffermio er gwaethaf y tywydd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn falch o fod yn ymuno â’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (NFFN) Cymru i gynnal y drafodaeth banel hon, a fydd yn cynnwys yr arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a dau ffermwr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans.

Bydd hyn yn digwydd ar stondin HCC (M744) am 10:30am ddydd Mawrth 23 Gorffennaf.

Bydd Niels Corfield, cynghorydd a hyfforddwr ffermio annibynnol sydd wedi gweithio’n ddiweddar gyda NFFN Cymru ar gyfres o weithdai, yn ystyried sut y gall iechyd y pridd helpu ffermwyr i wneud eu tir yn fwy cymwys i ddelio â thywydd eithafol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, heb orfod cyfaddawdu ar faint o fwyd y maent yn ei gynhyrchu na bygwth y pethau sy'n cyfrif.

Bydd y ffermwr defaid mynydd, Rhodri Lloyd-Williams o Dal-y-bont, ger Aberystwyth, a’r ffermwr cig eidion a defaid yr iseldir o Sir Gaerfyrddin, Aled Picton Evans, yn amlinellu eu profiadau ymarferol o gynhyrchu cig coch o safon ar systemau sydd yn seiliedig ar borfa wrth wynebu heriau a newidiadau cyson yn y tywydd.

Dywedodd rheolwr NFFN Cymru, Rhys Evans: “Os ydych chi’n poeni am incwm y fferm yn gostwng, gwydnwch busnes y fferm ac ymdopi â llifogydd yn y gaeaf a sychder yn yr haf, yna mae’r sesiwn hon ar eich cyfer chi. Mynychodd dros 200 o ffermwyr gyfres ddiweddar o weithdai Ffermio Gwrthdywydd NFFN Cymru, dan arweiniad gwych Niels Corfield, sy’n dyst i boblogrwydd y sesiynau hyn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Hybu Cig Cymru i ddod â’r sesiwn hon i Sioe Frenhinol Cymru.”

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Cafodd llawer o heriau eu taflu at ein sector yn y blynyddoedd diwethaf, o Brexit i Covid, a newidiadau polisi ynghylch tywydd gwael, sydd oll wedi effeithio ar gynhyrchiant a proffidioldeb ein ffermydd.

“Ni allwn reoli’r tywydd ond gallwn gynllunio ymlaen llaw a pharatoi. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda NFFN yn y Sioe ac yn edrych ymlaen at glywed gan Niels Corfield ar sut y gall gwella iechyd y pridd leihau dibyniaeth ar fewnbynnau artiffisial costus a chaniatáu i ffermydd newid i systemau pori sy’n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â HCC ar: info@hybucig.cymru / 01970 625050

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd