Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae’r corff sy’n hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), yn mynd â Chig Oen Cymru PGI i farchnad broffidiol y Dwyrain Canol lle bydd yn arddangos mewn sioe fasnach flaenllaw ac yn cynnal dathliad arbennig yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai.

Bydd allforwyr o Gymru yn ymuno â thîm masnach HCC i arddangos Cig Oen Cymru yn Gulfood, a gynhelir rhwng 19-23 Chwefror yng Nghanolfan Masnach y Byd,  Dubai.

Mae marchnad y Dwyrain Canol yn farchnad allforio bwysig sy’n tyfu ar gyfer cig coch Cymru – gydag allforion o Gig Oen Cymru yn cynyddu mewn blynyddodd diwethaf.

Dywedodd Swyddog Datblygu'r Farchnad yn HCC, Gareth Evans:  “Mae Gulfood yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr bwyd a diod byd-eang. Bydd prynwyr o dros 120 o wledydd yn bresennol ac mae’n gyfle gwych i ddatblygu enw da Cig Oen Cymru ac i gysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.”

Yn ogystal â mynychu’r sioe fasnach, mae HCC wedi trefnu digwyddiad ‘Dathlu Cig Oen Cymru’  yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai. Bydd Comisiynydd Masnach a Chonswl Cyffredinol Ei Fawrhydi, Oliver Christian, yn bresennol yn y digwyddiad, ynghyd â phobl ddylanwadol y sector lletygarwch ac arlwyo o Dubai a’r Dwyrain Canol.

Cafodd bwydlen tri-chwrs ‘Dathlu Cig Oen Cymru’ ei chreu gan gogydd gweithredol blaenllaw o Dubai, Russell Impiazzi, ac mae’n cynnwys Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI Olosgedig a Lwyn Cig Oen Cymru PGI wedi’i Rhostio gyda Pherlysiau. Mae’r fwydlen hefyd yn cynnwys detholiad o gynnyrch bwyd a diod Cymreig adnabyddus arall –  gan gynnwys Dŵr Tŷ Nant, Halen Môn, Caws Eryri, a Chwisgi Penderyn.

Yn ogystal, bydd cyfle i glywed anerchiad gan gynrychiolydd o HCC yn egluro tarddiad a hanes Cig Oen Cymru, a sut mae’n hyrwyddo dulliau ffermio cynaliadwy Cymru.

Esboniodd Swyddog Digwyddiadau HCC, Medi Jones-Jackson: “Bydd y digwyddiad Llysgenhadaeth hwn yn galluogi HCC i gysylltu â phrynwyr allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y rhanbarth a rhoi gwir flas iddyn nhw o’r hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru PGI mor sbesial.”

You may also like

Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg