Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn falch o lansio ei ymgyrch Ysgoloriaeth flynyddol heddiw (09 Ebrill) ac yn gwahodd ceisiadau gan unigolion o fewn y diwydiant. Mae'r ysgoloriaeth, sydd yn werth hyd at £4,000, yn gyfle i archwilio systemau amrywiol y byd o gynhyrchu neu brosesu cig coch. Croesewir ceisiadau gan unigolion sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru, sydd dros 18 oed, cyn y dyddiad cau, sef 28 Ebrill. Mae ysgolorion blaenorol wedi cynnwys ffermwyr, cigyddion, proseswyr, academyddion a newydd-ddyfodiaid. Mae'r pynciau a astudiwyd wedi amrywio o wella cost cynhyrchu a dewis genetig ar gyfer pwysau cig oen i ddefnyddio cnydau porfa a systemau rhyngwladol ar gyfer graddio cig eidion. Yn sgil yr Ysgoloriaeth, mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi teithio cyn belled â Seland Newydd, Awstralia a De America. Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu'r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri: “Mae Ysgoloriaeth HCC wedi bod yn rhedeg ers dros ugain mlynedd ac mae’n gyfle amhrisiadwy i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u profiadau o gynhyrchu a phrosesu cig coch. Rhaid i ymgeiswyr fod yn uchelgeisiol ac ymroddedig i’r sector, ac yn barod i rannu eu canfyddiadau ag eraill yma yng Nghymru fel y gall y diwydiant ehangach elwa o’u gwybodaeth newydd.” Y llynedd, yr ysgolor llwyddiannus oedd William Powell o ‘r Groes, Llandrindod. Dewisodd ystyried enw da’r sector buchod sugno yn ystod ei ymweliad ag UDA. Wedi dychwelyd o’i daith, mae William wedi cyflwyno ei ganfyddiadau i nifer o grwpiau ffermio lleol, gan gynnwys clybiau ffermwyr ifanc, yr NFU a grwpiau tir glas. Dywedodd: “Gwelais fod ffermwyr yn yr Unol Daleithiau yn addasu i ddefnyddio technolegau modern megis effeithlonrwydd porthiant, genomeg a phrofi allyriadau methan i greu gwartheg mwy effeithlon ac ecogyfeillgar. Maen nhw hefyd yn defnyddio’r technolegau modern i helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr amgylchedd ac yn lleihau eu hallyriadau eu hunain a’u dibyniaeth ar borthiant wedi’i brynu. “Roedd yn brofiad gwych a dysgais lawer. Rwy’n ddiolchgar i HCC am y cyfle.” Ychwanegodd James Ruggeri: “Rydym yn ffodus dros ben fod gennym filoedd o bobl weithgar ac angerddol yn ein sector yma yng Nghymru. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag awydd i ddatblygu eu busnes a helpu i hybu’r diwydiant yn y dyfodol, i wneud cais.” Mae ysgolorion HCC yn dod yn aelodau o Gymdeithas Ysgoloriaeth HCC sydd ag aelodaeth unigryw o ffermwyr arobryn, academyddion o fri a phobl nodedig o fewn y diwydiant. Cadeirydd presennol y Gymdeithas Ysgoloriaeth yw’r ffermwr defaid a chig eidion William Evans o Fachynlleth I wneud cais am yr Ysgoloriaeth, dylid llenwi'r ffurflen gais sydd ar wefan HCC, a bydd cyfweliad yn dilyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer. Bydd modd gwneud cais rhwng 9 Ebrill a 12pm ar 28 Ebrill 2025. Mae’r manylion llawn ar gael yma: https://meatpromotion.wales/en/explore-expert-resources/scholarship-and-careers-resources/hcc-scholarship/ |