Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae tîm ymroddedig o staff Hybu Cig Cymru (HCC) ac EID Cymru ar fin mynd i’r afael â thri chopa uchaf Cymru ar drothwy Wythnos Iechyd Meddwl (13-19 Mai 2024) sydd â’r thema:  ‘Symud: Symud mwy er lles ein hiechyd meddwl’.

Bydd deunaw aelod y tîm yn cychwyn yn oriau mân ddydd Sadwrn 11 Mai o waelod Yr Wyddfa er mwyn dringo’r mynydd hwnnw, Cadair Idris a Phen-y-fan mewn cyfnod o 24 awr. Y nod yw codi arian tuag at wahanol achosion elusennol gan gynnwys yr elusen iechyd meddwl, Tir Dewi; Ambiwlans Awyr Cymru; a Sefydliad Prydeinig y Galon.

Arweinydd y fenter yw Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill, a ddywedodd: “Mae iechyd meddwl yn cael effaith ar bawb ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae cerdded a mynd allan i’r awyr iach yn ffordd wych o helpu ein hiechyd meddwl a dyna pam rydyn ni’n mynd i’r afael â’r her hon ar drothwy Wythnos Iechyd Meddwl.

“Dydy pawb ohonom ddim yn symud cymaint ag y dylem. Trwy fynd allan i’r awyr iach i hyfforddi ar gyfer yr her hon gyda’r tîm am fisoedd lawer, rydyn ni i gyd yn teimlo’n well ac wedi mwynhau’r sgwrsio  pan oeddem allan yn cerdded.”

Ychwanegodd cadeirydd HCC, Cath Smith: “Rwy’n dymuno pob lwc i’r tîm ac yn gobeithio y bydd y tywydd yn garedig. Fel sefydliad, rydym yn poeni am les meddwl ein tîm a hefyd lles y diwydiant yn gyffredinol.

“Trwy fentrau fel hyn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, ynghyd ag annog pobl i estyn allan a rhannu’r baich a pheidio â dioddef yn dawel.

“Mae’r diwydiant amaethyddol, er ei fod yn wydn, wedi gorfod delio â thywydd eithriadol o wlyb ac mae’n wynebu newidiadau aruthrol yn ystod y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae’n bwysicach nag erioed nawr i bawb gadw llygad ar ei gilydd a chyfeirio pobl at gymorth os yw’n ymddangos fod angen cymorth arnyn nhw.  Mae gennym lawer o fynyddoedd i’w dringo yn y dyfodol agos, ond am y tro, dymunaf bob lwc i aelodau’r tîm wrth iddyn nhw ddringo tri chopa uchaf Cymru.”

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd