Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae dod â ffermio yn nes at ddefnyddwyr ac arddangos y rhan bwysig sydd gan gynhyrchwyr bwyd  yn y gymuned mewn ffordd sy’n ystyriol o deuluoedd yn rhai o’r canlyniadau cadarnhaol a ddisgwylir o Ffair Wledig Garth eleni.

Yn croesawu’r digwyddiad arbennig, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae sêr ymgyrchu Hybu Cig Cymru (HCC), Ben ac Ethan Williams o Fferm Garth, sydd yn y man uchaf yng Nghaerdydd ym Mhen-tyrch.

Pan fydd gatiau’r fferm wedi’u hagor ddydd Sadwrn 10 Awst o 10.30am, gall ymwelwyr fwynhau reidiau trelar, arddangosiadau cefn gwlad, saethyddiaeth, sioeau cŵn, cerddoriaeth fyw, arddangosfa hen foduron, arddangosfeydd adar ysglyfaethus yn hedfan, stondinau marchnad amryfal a llawer mwy i bob oed. Yn ogystal, mae’r digwyddiad yn falch o gefnogi Tŷ Hafan ar gyfer 2024.

Mae pedair cenhedlaeth o’r teulu Williams wedi ffermio yng Ngarth Uchaf. Tenantiaid oedden nhw  i ddechrau, cyn i Elwyn a Sue Williams sefydlu’r fferm yn 1959, ac yn ddiweddarach bu eu mab Edward (Ted) a’i wraig Karen yn ei rheoli.

Erbyn hyn, y ffermwyr yw Ben ac Ethan, dau fab Karen ac Edward, sydd â diadell o bron i 700 o famogiaid (Mynydd De Cymru, croesau Suffolk, Mynydd Du Cymreig) ac ugain o hyrddod (Mynydd De Cymru a Mynydd Du Cymreig). Hefyd, mae ganddyn nhw fuches o wartheg Duon Cymreig pedigri, sy’n cynnwys 46 o fuchod sugno a dau darw, ynghyd â rhai moch Cymreig.

Dywedodd Ben Williams: “Rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn ar ein fferm eto eleni. Mae’n cael ei yrru gan y gymuned a’i nod yw dod â theuluoedd o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd am ddiwrnod  gwych. Ar yr un pryd mae’n cysylltu ein defnyddwyr â ffermio ac yn ein helpu i adrodd hanes llwyddiant Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.”

Bydd HCC, sydd hefyd yn ymuno â’r digwyddiad, yn rhannu ryseitiau a llyfrynnau am ffermio i blant ac yn pwysleisio fod cig coch yn faethlon ac yn rhan o ddiet cytbwys.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae HCC yn falch o gefnogi’r digwyddiad hwn ac edrychwn ymlaen at ymuno â Ben, y teulu a’r holl ymwelwyr am y diwrnod. Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig ac yn helpu i dynnu sylw at y rôl gysylltiol sydd gan ffermwyr mewn cymunedau ledled y wlad.

“Ffermydd fel Garth Uchaf sy’n dal ein cyfansoddiad cymdeithasol yn gyfan. Maen nhw’n sicrhau parhad ein diwylliant a’n ffordd o fyw, yn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu ac yn ennyn diddordeb y teulu cyfan. Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn gallu ymuno â nhw ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.garthfarm.co.uk/garth-country-fair

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd