Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn cael ei ddathlu’n fyd-eang i anrhydeddu a nodi gorchestion menywod a herio stereoteipiau. Yn draddodiadol, mae cynhyrchu cig coch yn gysylltiedig â dynion, ond mae llawer o ferched ysbrydoledig sy'n gwneud eu marc yn y diwydiant ac sy'n angerddol am ei ddyfodol.

Un o’r rheiny ydy Sioned Thomas-Jones a fu’n siarad gyda Hybu Cig Cymru (HCC) yn ddiweddar am ei phrofiad hi fel merch sy’n ffermio.

Mae Sioned, sy’n fam, yn ffermio’n llawn-amser ac wedi mentro ac arallgyfeirio, yn un o sawl cenhedlaeth o’i theulu i ffermio yn Nant y Gaseg, ger Machynlleth. Mewn partneriaeth â’i rhieni, Huw ac Eleri, mae’n rhedeg diadell o tua 960 o famogiaid Penfrith, mamogiaid Cymreig o deip Tregaron a mamogiaid croesfrid, gan werthu’r ŵyn wedi’u pesgi yn y farchnad leol. Maen nhw hefyd yn cadw 30 o fuchod sugno ac yn gwerthu eu gwartheg stôr croes-Limousin, eto yn y farchnad leol, lle gwnaethon nhw hanes yn ddiweddar drwy werthu bustach croes-Limousin 17 mis oed am £2,010 - pris uchaf erioed y ganolfan.

Roedd Sioned, 37 mlwydd oed, â’i bryd ar ffermio erioed. Dywedodd: “Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn ffermio ers pan oeddwn yn ifanc iawn ac rydw i wedi gweithio yma ar y fferm ers bron i ugain mlynedd. Rwy’n mwynhau bod allan ar y bryniau yn hel y defaid, yn edrych i lawr ar Ddyffryn Dyfi – mae’n nefoedd ar y ddaear i mi.

“Does dim byd yn well na gweithio gyda’r defaid. Cneifio ac ŵyna, rwy’ wrth fy modd. Mae ŵyna, yn arbennig, yn amser arbennig o’r flwyddyn. Does dim byd yn well na chroesawu bywyd newydd i’r fferm, a dwi’n mwynhau rhannu’r profiad hwnnw gyda fy mab naw mlwydd oed, Huw Ifan.”

Dywed Sioned nad yw hi wedi teimlo’n wahanol o fod yn fenyw a’i bod wedi’i derbyn yn llwyr gan y gymuned amaethyddol.

“Rwy’n teimlo’n gryf bod merched yn chwarae rhan gyfartal yn y diwydiant ac mae gen i lawer o ffrindiau sy’n ferched sy’n gweithio ar ffermydd.

“Rydym ni ferched wedi bod yn hollbwysig ar y fferm erioed ond yn draddodiadol efallai nad ydym ni wedi cael clod haeddianol. Rydyn ni’n eithaf hen ffasiwn yma – yn mwynhau dod i mewn i’r tŷ ar gyfer pryd da o fwyd ar ôl diwrnod hir ar y mynydd. Fy mam sy’n ei baratoi fel arfer, ac mae hi hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y busnes.  Er hynny, rwy’n falch iawn o weld bod pethau bellach wedi newid a bod merched yn profi nad diwydiant i ddynion yn unig mohono.

“Rwy’n cymryd rhan ym mhopeth ar y fferm – o drafod yr anifeiliaid i drafod y peiriannau mawr – rwy’n mwynhau’r amrywiaeth!”

Fodd bynnag, teimla’n drist bod llawer o wragedd ffermwyr y dyddiau hyn yn mynd allan i weithio am incwm ychwanegol er mwyn cynnal y teulu. “Mae’n anodd pan mae’n rhaid i chi rannu’ch hun rhwng dau ofyniad mawr – y fferm a swydd gyflogedig – a magu teulu ar ben hynny hefyd.

“Mae fy ngŵr, Andy, yn gweithio fel saer coed ac rydym wedi arallgyfeirio i dwristiaeth i roi hwb i’n busnes. Nôl yn 2016 fe wnaethon ni adnewyddu hen fwthyn fferm a’i droi’n llety gwyliau hunanarlwyo, a’r flwyddyn ganlynol fe ddechreuon ni fusnes glampio. Rydyn ni hefyd yn gwerthu bocsys o gig oen cartref sydd â galw mawr amdanyn nhw drwy’r amser. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o safon, gyda milltiroedd bwyd isel.”

Mae Sioned yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod y tirwedd a’r amgylchedd a sicrhau dyfodol mewn ffermio i’r genhedlaeth nesaf, gan gynnwys merched. “Hoffwn weld mwy o ferched yn ymuno â’r diwydiant ac rwy’n awyddus i chwarae fy rhan yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector cig coch. Rydyn ni’n gwneud llawer iawn yn barod yma’n Nant y Gaseg – rydyn ni wedi plannu gwrychoedd, rydyn ni’n cadw bridiau brodorol ac wedi cadw anifeiliaid allan o’r coetir ar y fferm. Rydyn ni hefyd yn cynnal a chadw’r waliau cerrig sych sydd wedi bod yn nodwedd o’n fferm ers canrifoedd!”

Wrth iddi siarad am ei gwaith, mae’r pleser pur a deimla yn heintus. Mae’n awyddus i annog merched i ddilyn gyrfa ym myd ffermio. “Rwy’n credu fod yna ddyfodol disglair i ferched mewn amaethyddiaeth. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol am ffermio, yn ymroddedig ac yn mwynhau’r gwaith, fel rydw i, yna fy unig gyngor fyddai i fynd amdani!”

Wrth siarad am rôl bwysig merched yn y diwydiant ac yn HCC, dywedodd Anne Dunn, Arweinydd Cyfathrebu a Materion Allanol HCC: “Mae menywod wedi gweld newid gwirioneddol mewn agweddau dros y blynyddoedd ac mae mwy o gefnogaeth ar gael erbyn hyn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio ag ymwrthod â sgyrsiau am gydraddoldeb a darparu cyfleoedd i fenywod ifanc ymuno â’r diwydiant.

“Mae HCC yn cyflogi menywod anhygoel ac yn gweithio gyda llawer o rai eraill yn y sector. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod mae’n anrhydedd i ni gydnabod eu rôl bwysig ar ffermydd ledled Cymru a’r cyfraniadau aruthrol y mae menywod yn eu gwneud i fywyd teuluol, busnesau gwledig, y diwydiant cig coch a’n heconomi.”

You may also like

Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn