Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cylchlythyr newydd sy’n canolbwyntio ar gig coch, sgiliau coginio a maeth – ac mae ganddynt gyfle i ennill gweithdy cig coch pwrpasol a gyflwynir yn yr ysgol gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae Gwersi o’r Gegin – The Kitchen Classroom yn gylchlythyr chwarterol newydd am ddim a sefydlwyd gan HCC, sef y corff ardoll cig coch, a bydd yn cynnwys adnoddau addysgu rhad ac am ddim, syniadau am wersi, gwybodaeth ac erthyglau gan bobl flaenllaw ym maes cig coch, iechyd a maeth.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr: “Mae darparu addysgwyr ac athrawon ag adnoddau a gwybodaeth am gig coch sydd yn seiliedig ar dystiolaeth yn flaenoriaeth i ni yn HCC. Felly, bydd cylchlythyr Gwersi o’r Gegin yn gyfle gwych i gysylltu â mwy o athrawon ac i roi’r  wybodaeth ddiweddaraf i addysgwyr am themâu bwyd a ffermio a chynnig syniadau am wersi.

“Bydd athrawon sy’n cofrestru ar gyfer y cylchlythyr rhwng nawr a dydd Gwener 13 Medi hefyd yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill gweithdy cig coch pwrpasol a gyflwynir yn yr ysgol gan HCC yn y flwyddyn academaidd nesaf.  Bydd y gweithdy hwn yn cwmpasu sgiliau coginio, bwyta’n iach a tharddiad bwyd.”

Bydd y cylchlythyr yn cynnwys dolenni i adnoddau addysg HCC sy’n addas ar gyfer plant  3-16 oed ac a fydd yn ymdrin â phynciau fel bwyta’n iach, ffermio yng Nghymru, teilwra ryseitiau a maeth. Mae’r holl adnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg a chawsant eu cynllunio ar y cyd ag athrawon, yn unol â’r cwricwlwm newydd. Yn ogystal, bydd ryseitiau tymhorol, fideos a gwybodaeth am newyddion a digwyddiadau addysg HCC sydd ar ddod yn cael eu cynnwys.

Eglurodd Uwch Swyddog Marchnata Digidol HCC, Liz Hunter: “Mae ein gwaith iechyd ac addysg diweddar wedi dangos bod galw am ffynonellau gwybodaeth digidol ac ar-lein i athrawon. Bydd ein cylchlythyr newydd, Gwersi o’r Gegin, yn sicrhau bod athrawon yn gallu derbyn ein hadnoddau diweddaraf a gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth am gig coch yn syth i’w mewnflychau.”

Bydd HCC hefyd yn bresennol yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno ddydd Gwener 14 Mehefin lle bydd yn rhannu adnoddau dosbarth ac yn cynnig cofrestriadau i'r cylchlythyr.

Meddai Elwen: “Rwy’n awgrymu’n garedig y dylai athrawon ac addysgwyr gofrestru ar gyfer cylchlythyr Gersi o’r Gegin fel bod ganddyn nhw gyfle i ennill y wobr arbennig iawn hon i’w hysgol.”

Gall athrawon gofrestru'n uniongyrchol ar gyfer y cylchlythyr trwy wefan hwbcigcoch.cymru neu y linc yma.

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd