Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Gan Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau

Blinciwch a byddwch wedi ei methu, mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2024 wedi mynd a dod am flwyddyn arall. Nid yw’r uchafbwynt yma yn y calendr ffermio byth yn siomi ac, er bod gennym stondin a phresenoldeb cyffredinol gwahanol y flwyddyn yma, yn sicr nid oeddem yn llai o ran amlygiad ac ymgysylltiad. Roedd penderfyniad strategol i adolygu ein presenoldeb yn y sioe, wrth sicrhau’r gwerth gorau am arian i’n rhanddeiliaid, yn golygu bod ein harddangosiadau coginio yn cael eu cynnal ar stondinau manwerthwyr, a rhoddwyd ffocws o’r newydd ar drosglwyddo gwybodaeth ac ymgysylltu â diwydiant ar ein stondin ni. Amlygodd y stondin ar ei newydd wedd feysydd allweddol lle mae HCC wedi ymrwymo i gyflawni ar ran rhanddeiliaid, gan gynnwys gweithio tuag at gynaliadwyedd, statws premiwm a llwyddiant masnach ar gyfer sector cig coch Cymru yn ogystal â sganio’r gorwel ac Ymchwil a Datblygu. Er mwyn ehangu ein presenoldeb ymhellach ar draws maes y Sioe, rhannwyd mewnwelediadau diwydiant hefyd mewn seminarau ar stondinau rhanddeiliaid, a buom yn gweithio mewn partneriaeth â phroseswyr a mân-werthwyr i feirniadu cystadlaethau a chyflwyno arddangosiadau coginio, gan ddod â defnyddwyr hyd yn oed yn agosach at y pwynt prynu.

Fel arfer, fe wnaeth Brecwast HCC cychwyn y gweithgareddau ac fe wnaeth cynnwys Cadeirydd HCC, Catherine Smith ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS. Gwestai arbennig i’r digwyddiad oedd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gethin ac fe wnaeth ef, ynghyd a 100 o westeion eraill mwynhau brecwast cynnyrch Cymreig.

Yn ystod derbyniad Ysgoloriaeth HCC fe wnaethom gyflwyno ein hysgolhaig diweddaraf, a dymunwn bob llwyddiant i William Powell wrth iddo ceisio adfer enw da’r fuwch sugno. Cafodd aelodau menter newydd gyffrous HCC, Cig-weithio, eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos hefyd. Nod y rhaglen newydd hon yw gweithio gyda phobl ifanc sy'n ymwneud â'r sector cig coch i ysgogi trafodaeth, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau rhwng gwahanol gysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi. Fe wnaeth ymwelwyr i’r stondin drwy gydol y Sioe hefyd ddarganfod mwy am brosiect Arfor ar Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru, sydd â’r nod o werthuso effaith amrywio oedran magu gwartheg cig eidion ar elw economaidd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r brosiect yn chwilio am ffermwyr Cymraeg eu hiaith o Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Môn, ac mae’r buddion i’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys archwiliadau carbon rhad ac am ddim a dadansoddiad ariannol rhad ac am ddim a allai arwain at fwy o elw i fusnesau ffermio.

Fe wnaeth HCC hefyd lansio prosiect newydd ArloesiAber a fydd yn edrych ar ansawdd cig Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith a gwblhawyd yn flaenorol gan HCC yn y Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, a bydd yn llywio datblygiadau cadwyn gyflenwi a gweithgareddau masnach yn y dyfodol. Uchafbwynt arall i ni yn ystod yr wythnos oedd seminar ar y cyd gyda Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur (NFFN) a wnaeth trafod ffermio gwrthdywydd, gyda’r arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a dau ffermwr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans, a wnaeth cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdrin yn well â digwyddiadau tywydd eithafol tra’n cynyddu elw neu hyd yn oed gynyddu cynnyrch.

Fe wnaeth ein Swyddog Defnyddwyr, Elwen Roberts, gweithio gyda CFfI Cymru i feirniadu un o’u cystadlaethau coginio. Hefyd, bu Elwen yn cyflwyno arddangosiad coginio byw i S4C ac arddangosiadau coginio dyddiol mewn partneriaeth gyda mân-werthwyr i ddathlu eu strategaeth cyrchu Cig Oen Cymru.

Ar nodyn terfynol - efallai ein bod wedi edrych yn wahanol, ond yr un oedd ein nod yn y pen draw. Gwnaethom fwynhau rhannu gwybodaeth gyda’n rhanddeiliaid am ein gweithgareddau marchnata diweddaraf yn y marchnadoedd domestig ac allforio, ac roeddem yn falch iawn o gyfarfod â nifer o broseswyr, allforwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid allforio i drafod a chynllunio ar gyfer datblygiadau masnach a chymorth marchnata sydd i ddod, nid yn unig yng Nghymru a’r DU, ond hefyd mewn marchnadoedd allforio allweddol gan gynnwys Ewrop a Siapan. Byddwn yn parhau i frwydro cornel ein diwydiant, gan amlygu ei bwysigrwydd a’i werth i’r economi, ond hefyd rhinweddau chwaeth, iechyd a chynaliadwyedd ein brandiau Cymreig.


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol