Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Adrodd stori bositif Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI oedd canolbwynt Hybu Cig Cymru (HCC) pan ymunodd â chynulleidfaoedd rhyngwladol a’r bobl fwyaf disglair ac arloesol yn y sector bwyd, o Ffrainc a thramor yn SIAL Paris (19-23 Hydref 2024).

Mae'r digwyddiad nodedig hwn yn denu 7,500 o arddangoswyr o 130 o wledydd, ac roedd disgwyl i 285,000 o ymwelwyr o 200 o wledydd (70% rhyngwladol) fynychu eleni. Gyda chynulleidfa o 8,000 o brynwyr dylanwadol â €50 biliwn i’w wario, mae HCC mewn sefyllfa wych i arddangos un o gynhyrchion allforio premiwm Cymru, gan helpu i feithrin cysylltiadau masnachol gyda’r farchnad bwysig hon.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae’r farchnad Ewropeaidd a Ffrengig yn bartner masnachu hollbwysig yr ydym yn falch o’i gefnogi trwy ein gweithgareddau i ddatblygu’r farchnad a gweithio gyda chyfrifon allweddol i gyflenwi ein cynnyrch premiwm i’n cwsmeriaid yma yn Ffrainc.

“Mae galw mawr am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ac mae’r cigoedd bellach yn cael eu hallforio i dros ugain o wledydd ledled y byd. Mae’r nod olrheinedd PGI wedi bod yn gonglfaen i'r fasnach hon, gartref a thramor, ers i'r dynodiad PGI gael ei ddyfarnu yn 2003.

“Mae ein ffermwyr a’n dulliau traddodiadol wedi cael eu cydnabod ers blynyddoedd lawer am gynhyrchu cig oen o ansawdd gwych, ac mae ein hallforwyr yn enwog am eu gallu i harneisio a datblygu cysylltiadau ar bob lefel o fusnes. Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â chwsmeriaid, arweinwyr busnes ac allforwyr yma yr wythnos hon i adrodd stori gadarnhaol ein cynhyrchion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru rhagorol.”

Fel rhan o'r digwyddiad, cynhaliodd HCC dderbyniad i westeion dethol ddydd Llun 21 Hydref. Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd Cadeirydd HCC Catherine Smith: “Mae gan ein brandiau enw da iawn am gynaliadwyedd. Mae ffermio da byw yng Nghymru yn anarddwys gan fwyaf ac yn cyd-fynd â'r amgylchedd naturiol. Rydym hefyd yn glir y gall prynu cig a gynhyrchir yn y ‘Ffordd Gymreig’ fod yn rhan o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd ac, yr un mor bwysig, mae ei flas yn ei wneud yn ffefryn mawr ar lawer bwrdd.”

Pwysleisiodd Mrs Smith fod bwyd blasus a gynhyrchir yn fedrus yn ei amgylchedd naturiol yn arwain at gynnyrch o safon.

“Nid yw Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn eithriad. Mae gweiriau bras a pherlysiau gwyllt sy’n cael eu maethu gan law trwm yn darparu llawer o’r porthiant sy’n rhoi i’r cig ei flas Cymreig rhagorol a’i wead nodedig. Gydag amlbwrpasedd di-ben-draw a blas diguro, mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffefrynnau mawr ymhlith cogyddion yn y cartref, cogyddion y tai bwyta gorau a chynghorwyr bwyd arbenigol,” meddai.

Defnyddiodd cynrychiolwyr HCC y digwyddiad masnachol fel cyfle i dynnu sylw at y ffaith bod ffermwyr Cymru yn enwog ledled y byd am gynhyrchu cig oen a chig eidion â blas nodedig o safon fyd-eang. Clywodd y rhai a ymwelodd â HCC fod yr amgylchedd anarddwys lle caiff da byw eu magu yn datblygu cig blasus, melys a brau.

“Ers canrifoedd, mae da byw wedi ffynnu ar y glaswelltir naturiol sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn un o fannau mwyaf digyffwrdd y byd. Gwyddom fod defnyddwyr ar draws y byd yn gwerthfawrogi cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd a rhoddir mwy a mwy o sylw i gynaliadwyedd a rhinweddau amgylcheddol ein bwyd. Mae gan ein cig coch stori wych i’w hadrodd – cynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn y Ffordd Gymreig, sy’n creu cynhyrchion nodedig,” ychwanegodd Laura Pickup.


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol