Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Coginio gyda phlant, siarad mewn seminarau ar gynaliadwyedd a beirniadu bugeiliaid ifanc – rhai o weithgareddau Hybu Cig Cymru (HCC) yn nigwyddiad defaid prysur yr NSA yr wythnos ddiwethaf.

Cynhelir arddangosfa ddefaid yr NSA bob yn ail flwyddyn, ac eleni fferm Tregoyd, Aberhonddu oedd yn gwesteio. Roedd yn gyfle i ymgysylltu gyda ffermwyr a’r diwydiant yn ehangach ar waith a gweithgareddau HCC.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Castell Howell, mwynhaodd dros 100 o ddisgyblion o bum ysgol leol y cyfle i goginio peli Cig Oen Cymru gydag Elwen Roberts, HCC. Ar y cyd ag Edward Morgan, Castell Howell, eglurodd y Ffordd Gymreig o gynhyrchu cig coch a chyflwyno negeseuon cadarnhaol ar y manteision iechyd o’i fwyta.

Meddai Elwen: “Cawsom gwmni grwpiau brwdfrydig o blant a fwynhaodd baratoi - a bwyta - y peli Cig Oen Cymru gyda saws tomato a llysiau iachus. Roedd yn wych cael gweithio gyda Castell Howell yn y digwyddiad, a gyflenwodd y cynhwysion ar gyfer y sesiwn, a chyfrannu coesau Cig Oen Cymru i ddwy ysgol leol ar gyfer eu bwydlen cinio'r diwrnod cynt!”

Yn ogystal â noddi’r digwyddiad, cefnogodd HCC gyfres seminarau'r NSA ar y diwrnod hefyd. Roedd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC ar banel o siaradwyr gwadd a fu’n trafod “Gwella proffidioldeb a chynaliadwyedd ffermio defaid drwy eneteg a maeth.”

Meddai Dr McCalman: “Roeddwn i wrth fy modd i fod yn rhan o’r panel. Roedd y seminar yn gyfle gwych i son am bortffolio Ymchwil a Datblygu HCC sy’n gweithio i danategu’r gwaith o farchnata Cig Oen Cymru PGI ynghyd â chefnogi’r gadwyn gyflenwi i daclo heriau o fewn y diwydiant. Roedd yn gyfle i dynnu sylw at brosiectau yn cynnwys Defnydd Tir ar gyfer Sero Net (LUNZ) ble byddwn yn gweithio gyda deg ffermwr dros Gymru a nifer o bartneriaid dros y DU, yn ogystal â’r prosiect ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff.’ Hefyd, tynnais sylw at gyfle i fod yn rhan o brosiect RamCompare a rhaglen Cig-weithio HCC, a helpu’r sefydliad i gasglu ymatebion rhanddeiliaid er mwyn creu dogfen Gweledigaeth newydd i’r diwydiant.”

Mae Gweledigaeth 2030 yn ddogfen strategol bwysig sy’n gosod blaenoriaethau’r sefydliad i gefnogi’r diwydiant cig coch dros y pedair blynedd nesaf. Cafwyd sawl trafodaeth gyda thalwyr ardoll yn ystod y digwyddiad, ac fe’u hanogwyd i gwblhau holiadur ar-lein i gael lleisio eu barn.

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd