Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

O ymgynghori gyda’r diwydiant i goginio gyda defnyddwyr, bydd gan Hybu Cig Cymru (HCC) raglen brysur o ddigwyddiadau yn Sioe Frenhinol Cymru eleni (dydd Llun 21 – dydd Iau 24 Gorffennaf 2025).

Bydd presenoldeb HCC yn rhan bwysig o’r gwaith ymgysylltu ar Gweledigaeth 2030 - dogfen strategol bwysig sy’n gosod cyfeiriad y sefydliad ac yn cadarnhau ei flaenoriaethau ar gyfer cefnogi’r diwydiant dros y pedair blynedd nesaf.

Mae holiadur ar-lein ar agor ers canol Mehefin, sy’n cynnig cyfle i gynhyrchwyr sy’n talu ardoll i rannu eu barn ar yr heriau a chyfleoedd i’r dyfodol. Bydd yr holiadur yma ar gael i’w gwblhau ar stondin HCC yn y Sioe, neu gall rhanddeiliaid fynychu’r sesiynau galw heibio anffurfiol neu drefnu cyfarfod gyda staff HCC i gyfrannu at y broses a helpu i siapio dyfodol y diwydiant cig coch.

Bydd sylw i Gweledigaeth 2030 yn ystod Brecwast HCC hefyd. Fe’i cynhelir ar fore cyntaf y Sioe, gyda Chadeirydd HCC Catherine Smith a Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Cyhoeddir aelodau ail griw cynllun Cig-weithio HCC, yn ogystal ag enillydd Ysgoloriaeth HCC 2025. Nod y cynlluniau yma yw gweithio gydag unigolion blaengar ac uchelgeisiol o fewn sector cig coch Cymru sy’n awyddus i ddatblygu eu hunain a datblygu’r diwydiant i’r dyfodol.

Bydd Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr yn HCC, Elwen Roberts yn cyflwyno nifer o arddangosiadau coginio, yn cynnwys un ar ‘gigoedd coll’ megis afu oen. Bydd hyn yn tynnu sylw at waith HCC fel rhan o brosiect ‘SMART Maeth Cymru’ sy’n golygu gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i ddarganfod ffyrdd newydd o wneud y mwyaf o faetholynnau gwerthfawr a lleihau colledion ar hyd y gadwyn gyflenwi.

Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr adnabyddus i’r gegin. Bydd y rhain yn cynnwys ein Llysgennad Brand newydd a’r chwaraewr rygbi, Jonathan ‘Fox’ Davies; yr athletwraig Olympaidd, Adele Nicholl; y garddwr ar S4C, Adam yn yr Ardd; y canwr a’r diddanwr, y Welsh Whisperer; a’r cymeriad teledu i blant, Hywel y Ffermwr.

Mae gan Gymru nifer o gynnyrch sydd â statws PGI/PDO, sydd wrth gwrs yn cynnwys Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Bydd cynhyrchwyr bwydydd PGI/PDO yn ymweld â stondin HCC i drafod a blasu’r cynnyrch yma a’u nodweddion arbennig.

Meddai Swyddog Gweithredol Digwyddiadau HCC, Medi Jones-Jackson: “Rydym yn edrych ymlaen at amser prysur a chynhyrchiol yn Sioe Frenhinol Cymru, ac yn gyffrous i weld ein harddangosiadau coginio poblogaidd yn dychwelyd. Mae’n gyfle ffantastig i arddangos cynnyrch cig coch premiwm y diwydiant ac ysbrydoli pobl i goginio, gyda help ambell wyneb cyfarwydd!

“Rydym yn awyddus i weld talwyr ardoll yn ymweld â’n stondin hefyd – sydd wedi’i lleoli yn yr un safle ag arfer, rhwng y neuadd fwyd a’r ganolfan gneifio – a chefnogi datblygiad Gweledigaeth 2030 drwy rannu eich barn a’ch syniadau ar gyfer y diwydiant. Mae eich barn yn cyfri felly cofiwch ddod i’w leisio ar ein stondin. Bydd croeso cynnes yn aros amdanoch.”

Mae’r gweithgareddau canlynol wedi’u trefnu (gall yr union amseroedd newid). Mae croeso cynnes i aelodau o’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch gyda swyddfa’r wasg HCC i gadarnhau eich presenoldeb, i drefnu cyfweliadau neu dynnu lluniau.

Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025

 

08:00Brecwast Cadeirydd HCC (mynediad trwy wahoddiad yn unig)
11:00Llysgennad Brand 2025

Dewch i gwrdd â Jonathan ‘Fox’ Davies, un o’r llysgenhadon brand newydd ar gyfer ymgyrch farchnata Cig Oen Cymru.

13:00Llysgennad Brand 2025

Jonathan ‘Fox’ Davies yn coginio gwledd gydag Elwen Roberts (HCC).

15:00Welsh Whisperer

Y canwr a’r diddanwr sy’n ymuno efo ni am sesiwn goginio.

16:00Derbyniad Cig-weithio

Digwyddiad i ddathlu diwedd blwyddyn gyntaf y cynllun Cig-weithio a chyhoeddi cyfranogwyr 2025/6.

 

Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025

09:00-11:00Sesiwn galw heibio

Dewch i ddarganfod mwy a lleisio barn am Weledigaeth 2030 Hybu Cig Cymru i siapio dyfodol y diwydiant.

11:00Adam yn yr Ardd

Y garddwr Adam Jones sy’n ymuno efo ni am sesiwn goginio (sesiwn Gymraeg). Gyda gweithgaredd i blant.

12:00Cigoedd Coll

Sesiwn goginio yn edrych ar sut i ddefnyddio cigoedd coll yn y gegin a’u manteision mewn deiet gytbwys.

14:30Cyflwyniad Cigoedd Coll: “Nutrient rich or down the drain?”

Dr Christina Marley (IBERS) a Dr Heather McCalman bydd yn trafod

bod yn glyfar gyda maetholion, prosiect sy'n ymestyn o'r fferm i'r fforc.

16:00Derbyniad prosiectau

Cyfle i rwydweithio a darganfod mwy am brosiectau amaeth Hybu Cig Cymru.

 

Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025

09:00-11:00Sesiwn galw heibio

Dewch i ddarganfod mwy a lleisio barn am Weledigaeth 2030 Hybu Cig Cymru i siapio dyfodol y diwydiant.

10:30Sesiwn Goginio efo Adele Nicoll

Yr athletwraig Adele Nicoll sy’n ymuno â ni i drafod pwysigrwydd cig coch a hearn iddi hi. Gyda gweithgaredd i blant.

11:30Hywel y Ffermwr

Cyfle i ymwelwyr bach y sioe ymuno efo Hywel y Ffermwr o Fferm Fach (S4C) a choginio ryseit o’n llyfryn plant, Cegin Ni.

13:00Sesiwn Goginio efo Adele Nicoll

Yr athletwraig Adele Nicoll sy’n ymuno â ni i drafod pwysigrwydd cig coch a hearn iddi hi. Gyda gweithgaredd i blant.

15:00Sesiwn Goginio

Elwen Roberts sy’n coginio rysetiau o lyfryn rysetiau’r haf Hybu Cig Cymru.

 

Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025

09:00-11:00Sesiwn galw heibio

Dewch i ddarganfod mwy a lleisio barn am Weledigaeth 2030 Hybu Cig Cymru i siapio dyfodol y diwydiant.

11:00PGI – Cwrdd â chynhyrwchwyr PGI/PDO Cymru

Cyfle i gwrdd a blasu’r amrywiaeth o gynnyrch PGI/PDO o Gymru.

12:00

 

Derbyniad Ysgoloriaeth HCC

Bydd enillydd Ysgoloriaeth HCC 2025 yn cael ei gyhoeddi.

13:00Sesiwn Goginio

Elwen Roberts (HCC) sy’n arddangos rysetiau porc blasus newydd sbon.


You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga