Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Teithiodd tîm Hybu Cig Cymru (HCC) ar hyd a lled Cymru yn ystod mis Medi i ymgysylltu mewn trafodaethau buddiol gyda rhanddeiliaid y sector cig coch.

Bu’r staff yn ymweld â deg arwerthiant da byw a mynychwyd wyth digwyddiad ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio i hyrwyddo ymrwymiad HCC i gydweithio ac i siarad am y gwaith sy’n cael ei wneud ar ran y sector cig coch – o’r ymgyrchoedd marchnata i weithgaredd ymchwil a datblygu.

Roedd hefyd yn gyfle i annog ffermwyr defaid a chig eidion i gymryd rhan yn y prosiectau, astudiaethau a’r digwyddiadau diweddaraf yn cynnwys yr Arolwg o Fwriadau Ffermwyr, prosiect ARFOR ar Ddatgarboneiddio Cig Eidion a gweminar HCC ar wybodaeth y farchnad, gofynion y farchnad ac ymgyrchoedd marchnata cyfredol.

Meddai James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC: “Yn ogystal â marchnata brandiau eiconig Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, mae HCC yn gweithio i ddatblygu’r diwydiant ac i sicrhau bod diwydiant cig coch Cymru yn gweithio tuag at wella ansawdd, cynyddu cost-effeithiolrwydd ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion cig coch Cymru ar draws y diwydiant.

“Mae ymweld â’r marchnadoedd a mynychu digwyddiadau i gynhyrchwyr yn gyfle da i sgwrsio gyda ffermwyr a rhannu gwybodaeth a mewnwelediad o’r diwydiant ar draws Cymru. Cawsom nifer fawr o sgyrsiau cadarnhaol ac ymateb gwych i’n Harolwg o Fwriadau Ffermwyr. Roedd yn braf cael siarad gyda chymaint o ffermwyr sy’n rhannu’r un angerdd am y diwydiant â ni.”

Bu’r tîm mewn marchnadoedd o’r Gaerwen i Drefynwy i Grymych, yn ogystal â mynychu Arwerthiant Hyrddod yr NSA yn Llanelwedd. Bu rhai o’r staff mewn digwyddiad gan brosesydd ar gyfer cynhyrchwyr, oedd yn cynnwys sgyrsiau, arddangosfa torri cig a barnu carcasau, a darparwyd hyfforddiant a sesiynau gwybodaeth i fyfyrwyr milfeddygol yn Aberystwyth.

Mae deugain o gynhyrchwyr wedi elwa o gyrsiau Hyfforddiant Dewis Da Byw HCC yn ddiweddar. Mae’r cwrs yn gyfle unigryw i raddio carcasau a thrafod gofynion y proseswyr gyda’r proseswyr eu hunain. Bydd mwy o sesiynau yn cael eu cynnal cyn diwedd y mis, mewn cydweithrediad â Cyswllt Ffermio. I wneud cais am gwrs neu fynychu sesiwn hyfforddi, gall cynhyrchwyr gysylltu â HCC ar: info@hybucig.cymru / 01970 625050

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad