Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae data newydd yn awgrymu bod mwy o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi cael eu bwyta i ginio Nadolig y llynedd wrth i rai defnyddwyr roi’r gorau i’r twrci traddodiadol.

Mae Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC) y mis hwn yn canolbwyntio ar ddata newydd gan yr arbenigwyr ar y defnydd o fwyd, Kantar, sy’n awgrymu bod cig eidion a chig oen, a oedd yn rhan o ymgyrch hyrwyddo gan HCC cyn y Nadolig, wedi gwneud yn dda yn ystod yr ŵyl.

“Mae’r wybodaeth yn awgrymu bod mwy o bobl, yn ymwybodol o bwysau chwyddiant, wedi cefnu ar dwrci ffres eleni,” meddai Glesni Phillips, awdur Bwletin y Farchnad a Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Trodd rhai o’r bobl hyn at gig oen i’w rostio a golygodd hynny £978,000 o wariant ychwanegol ar y cig hwnnw.”

Cafodd dros 30 y cant yn fwy o ddarnau cig oen i’w rhostio eu gwerthu na’r flwyddyn flaenorol yn ystod y cyfnod perthnasol o 12-wythnos a chafwyd cynnydd o 24 y cant yn nifer y prynwyr.

“O ganlyniad, mae cyfanswm y darnau o goesau cig oen i’w rhostio a werthwyd yn 2023 oddeutu 14 y cant yn fwy na’r flwyddyn flaenorol a dyna oedd 43 y cant o’r holl gig oen a werthwyd yn y siopau,” meddai Glesni.

Wrth edrych ymlaen, dywedodd: “Gall gostyngiad mewn chwyddiant olygu y bydd defnyddwyr yn dychwelyd at eu hen arferion.  Fodd bynnag, bydd y cyflenwad ar y farchnad gartref yn dal i fod yn dynn o’i gymharu â lefelau hanesyddol. Hefyd, bydd digwyddiadau crefyddol sydd ar ddod yn rhoi hwb i’r galw am gig oen; ond nid yw’r Pasg cynnar eleni mor fanteisiol i'n cynhyrchwyr.”

Yn ôl Bwletin y Farchnad, yn ystod y 12 wythnos hyd at 24 Rhagfyr 2023, gwerthwyd cyfanswm o 16,100 tunnell fetrig o gig oen, sef cynnydd nodedig o 15 y cant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol. Bu gostyngiad bach o ddau y cant yn y pris cyfartalog yn y siopau – i gyfartaledd o £11.30/kg – a gallai hynny fod wedi denu mwy o bobl i brynu.  O ganlyniad, cafodd 13 y cant yn fwy ei wario na’r flwyddyn flaenorol, gan gyrraedd £182 miliwn.

Yn ystod yr un 12 wythnos, cafodd bron i 6 y cant yn fwy o gig eidion ei werthu na’r llynedd yn siopau’r DG, sef gwerth £636 miliwn.  Roedd y cynnydd hwn mewn gwariant wedi’i ysgogi’n bennaf gan gynnydd o 7 y cant yn y pris cyfartalog i £9.57/kg, gan fod gostyngiad bychan o 1.5 y cant ym mhwysau’r cig a werthwyd.

Dywedodd Glesni y cafodd 1.5 y cant yn llai o friwgig ei werthu na’r llynedd.  “Mae’n  debygol taw’r rheswm am hyn oedd cynnydd o 16 y cant yn y pris cyfartalog – fodd bynnag, mae gwerthiant briwgig yn dal i gyfrif am dros 50 y cant o gyfanswm yr holl gig eidion a werthir.

“Roedd gwerthiant stêcs yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, ond gwelwyd cynnydd nodedig o 8 y cant yng nghyfaint y darnau i’w rhostio.”

Dywedodd fod data Kantar yn dangos fod cyfanswm gwerth y nwyddau cartref a werthwyd yn y siopau ym Mhrydain wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed o £13.8 biliwn yn ystod y 4 wythnos hyd at 24 Rhagfyr, sef cynnydd nodedig o 7 y cant o’r naill flwyddyn i’r llall. “Daeth hyn o ganlyniad i gynnydd yn nifer y teithiau siopa, ynghyd â chwyddiant o  6.7 y cant mewn nwyddau groser,” meddai Glesni.

You may also like

Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Prinder cyflenwad yn golygu’r prisiau cig eidion gorau erioed
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg