Bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynrychioli Cig Oen Cymru PGI yn Foodex Japan 2026, sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Arddangos Tokyo Big Sight rhwng 10-14 Mawrth. Bydd HCC yn bresennol fel rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, gan gryfhau presenoldeb Cymru mewn un o’i marchnadoedd byd-eang pwysicaf.
Mae Japan yn dal i fod ymhlith tair marchnad premiwm ryngwladol i HCC ac yn parhau’n flaenoriaeth ar gyfer datblygiad strategol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae presenoldeb brand Cymru wedi tyfu’n sylweddol, gyda gwerthiant Cig Oen Cymru yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Bydd y cogydd Cymreig a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Colin Gray, yn paratoi samplau o Gig Oen Cymru fel rhan o gynnig ehangach o fwyd Cymreig, gan gyflwyno ansawdd, blas a tharddiad Cig Oen Cymru i brynwyr o Japan.




