Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae beibl blynyddol o ddata amaethyddol wedi’i gyhoeddi gan Hybu Cig Cymru (HCC).

O glawr i glawr, mae’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig - Casgliad o Ystadegau’r Diwydiant Cig Coch a Da Byw yng Nghymru 2025, yn llawn ffigyrau cyffredinol am y diwydiant, gydag adran ar y sector gwartheg, defaid a moch.

Mae’n adrodd bod 37,000 o ddaliadau amaethyddol yng Nghymru yn 2024, yn gorchuddio arwynebedd tir o 1,775,000 hectar. Daliadau gwartheg a defaid (ardal llai ffafriol) oedd cyfran uchaf daliadau Cymru - 15.7% o’r cyfanswm - a phob un ag incwm fferm cyfartalog o £28,500 yn 2023/24.

Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, Glesni Phillips oedd yn gyfrifol am grynhoi’r data ar gyfer y llyfryn. Meddai Glesni: “Mae’r llyfryn bach yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth neu sydd â diddordeb mewn amaeth. Mae’n rhannu darlun cynhwysfawr o’r diwydiant, ac yn edrych yn fanylach ar y sectorau defaid, gwartheg a moch, eu lefelau cynhyrchu a thueddiadau defnyddwyr.

“O fewn y cloriau gallwch ddarganfod gwybodaeth ar niferoedd da byw, lefelau trwybwn, data allforio a mewnforio, prisiau’r farchnad, cyfeintiau’r mân-werthwyr a ffigyrau gwerthiant, ynghyd â phatrymau prynu cwsmeriaid - yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y diwydiant yma yng Nghymru.”

Mae copïau caled o’r llyfryn ar gael drwy gysylltu â HCC, neu gallwch ei lawrlwytho o wefan HCC.

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad