Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn ôl ac yn llawn cyffro

Mae cystadleuaeth HCC, ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’, yn ôl ar gyfer ei chweched blwyddyn – ac eleni mae cyfle i gynhyrchwyr porc gystadlu mewn dau gategori.

Y tro hwn mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn yr hydref ac mae gan gynhyrchwyr porc ddau gyfle i gael eu coroni am y selsig gorau yng Nghymru – yng nghystadlaethau Selsigen Borc Draddodiadol Orau’r Flwyddyn a Selsigen Borc Nadolig Orau’r Flwyddyn.

Arferai rownd derfynol y gystadleuaeth gael ei chynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ond eleni bydd y beirniadu yn digwydd ddiwedd mis Hydref cyn cael dathliad arbennig yn y Ffair Aeaf pan gyhoeddir enwau’r enillwyr.

Gofynnir i gystadleuwyr yn y naill gategori a’r llall gyflwyno chwe selsigen heb eu coginio a chwe selsigen wedi'u coginio  er mwyn sicrhau proses feirniadu gadarn a thrylwyr.

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, sy’n beirniadu’r gystadleuaeth: “Eleni bu’n rhaid i ni greu dau gategori gan fod nifer a safon y selsig yn y blynyddoedd blaenorol wedi bod mor uchel. Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi rhyfeddu pa mor greadigol ac uchel eu safon fu’r selsig ac rwy’n siŵr na fydd eleni yn wahanol.”

Ychwanegodd Elwen: “Rydym yn arbennig o gyffrous ynghylch ein categori newydd – y Selsig Porc Nadolig Gorau ac yn edrych ymlaen at weld pa gyfuniadau o flasau Nadoligaidd gaiff eu cynnig gan ein cynhyrchwyr porc arloesol.”

Yn ogystal ag ennill tlws Cyflwynwch eich Selsig Gorau, bydd yr enillwyr yn y naill gategori a’r llall  yn destun fideo astudiaeth-achos y gallant ei ddefnyddio mewn ymgyrchoedd marchnata yn y dyfodol.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i aelodau Porc Blasus a rhaid defnyddio porc o Gymru. Dylai pawb sydd â diddordeb mewn cystadlu lenwi’r ffurflen ar-lein ar wefan Porc Blasus erbyn 21 Hydref a rhaid i geisiadau gyrraedd Swyddfeydd HCC yn Aberystwyth naill ai ar 23 neu 24 Hydref. Mae’r manylion llawn, gan gynnwys telerau ac amodau a ffurflen gais ar-lein, i gyd ar  wefan Porc Blasus.

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd