Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi cychwyn ymgyrch Cig Oen Cymru PGI 2024 yr wythnos hon yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r corff sydd yn hybu cig coch Cymru yn dechau ei ymgyrch flynyddol i hysbysebu brandiau ar gyfer y farchnad gartref ar ddiwrnod cyntaf sioe amaethyddol fwyaf Cymru gyda hysbysebion teledu Cig Oen Cymru yn ymddangos ar ITV o ddydd Llun 22 Gorffennaf, sef diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru.

O dan yr is-bennawd ‘Unigryw i Gymru: Arbenigwyr yn eu maes’, mae’r ymgyrch yn rhoi ffermwyr Cymru ar y blaen, gyda ffermwr defaid o Ddinas Mawddwy, Lisa Markham, yn serennu mewn hysbyseb deledu. Wedi’i ffilmio ar fferm deuluol draddodiadol Lisa, mae tirwedd garw a dramatig Cymru yn cael ei hamlygu yn yr hysbyseb, yn ogystal â’r ffordd naturiol a chynaliadwy y mae Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu. Bydd yr hysbyseb deledu yn ymddangos yn ystod oriau brig – cyn rhaglenni poblogaidd fel This Morning a Coronation Street.

Yn ogystal â Lisa, mae’r ffermwyr defaid Cymreig, Emily Jones o Dregaron yn y Canolbarth a’r brodyr Ben ac Ethan Williams o Bentyrch yn y De, hefyd yn ymddangos mewn hysbysebion digidol a phrint.

Bydd hyrwyddiadau ar sianeli teledu ITV, Sky ac S4C o fis Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Hydref. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys hysbysebion y tu allan i’r cartref, hysbysebion print yng nghylchgrawn Taste Blas a hysbysebion digidol ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, bydd yna hysbysebion radio o fis Gorffennaf i fis Hydref ar sianeli Global Media, gan gynnwys Smooth Radio a Classic FM. Bydd yr ymgyrch yn targedu siopwyr yng Nghymru a de ddwyrain Lloegr ac yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae Cig Oen Cymru ar gael yn y cyffiniau i siopwyr.

Mae’r ymgyrch yn adeiladu ar lwyddiannau ymgyrch Cig Oen Cymru 2023 pan gafwyd cynnydd o 26%  yn yr ymwybyddiaeth o’r brand a chynnydd o 7% yn y duedd i brynu.  Gwelwyd yr ymgyrch bron i 24 miliwn o weithiau y llynedd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Eleni byddwn yn targedu pobl ifanc sy’n hoffi bwyd, pobl traddodiadol eu hagwedd, pobl sy’n coginio yn eu cartrefi  a bwytawyr moesegol – a bydd ein negeseuon yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, ansawdd, blas, amlbwrpasedd ac iechyd. Trwy ddefnyddio’r dull strategol hwn, byddwn yn targedu’r bobl sydd fwyaf tebygol o brynu Cig Oen Cymru gyda negeseuon a fydd yn berthnasol iddyn nhw ac yn sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd i’r talwyr ardoll.

Cafwyd canlyniadau cadarnhaol i sector Cig Oen Cymru y lynedd, ac felly rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn dyrchafu’r neges ‘Unigryw i Gymru: Arbenigwyr yn eu Maes’ ar gyfer ymgyrch 2024 ar ei newydd wedd.”

Ychwanegodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Rydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo ein ffermwyr yn ein hymgyrch Cig Oen Cymru eto eleni.  Mae eu hymroddiad i gynhyrchu Cig Oen Cymru cynaliadwy a maethlon i’r safonau uchaf yn rhywbeth yr ydym yn falch o’i ddathlu drwy gyfrwng ein hymgyrch.

“Cadwch eich llygaid ar agor am hysbysebion dros y misoedd nesaf a chofiwch ymweld â  www.eatwelshlambandbeef.com  am ryseitiau Cig Oen Cymru blasus a mwy o wybodaeth.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol