Mae Hybu Cig Cymru, corff sy’n gyfrifol am hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru, wedi lansio ymgyrch amlgyfrwng i hybu Cig Eidion PGI Cymru.
Mae’r ymgyrch, a elwir yn Cig Eidion Cymru: Naturiol a Lleol, yn hyrwyddo un o gynnyrch mwyaf eiconig Cymru drwy hysbysebu ar rai o brif sianeli teledu a gorsafoedd radio Cymru.
Mae gorsaf radio Heart wedi darlledu'r hysbyseb radio ac wedi sôn am ein cystadleuaeth arbennig, ac mae ein hysbyseb newydd ar gyfer y teledu wedi cael ei ddarlledu ar S4C ac ITV Cymru yn ystod mis Rhagfyr gan ymddangos cyn rhaglenni poblogaidd fel I’m a Celebrity Get Me Out of Here, Coronation Street, Emmerdale a Saturday Kitchen.
Yn yr hysbyseb teledu ceir cipolwg ar dirweddau naturiol eithriadol Cymru a chlywed mwy am Ben ac Ethan Williams, dau ffermwr sy’n rheoli fferm fynydd deuluol yn y Garth yn ne Cymru, lle maen nhw’n magu eidion a defaid. Mae’r hysbyseb yn dangos buchod duon Cymreig Ethan a Ben, grug yn siglo yn yr awel, a glaswellt gwyrdd hardd.
Er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd iau, bydd yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram, a TikTok.
Y llynedd, llwyddodd ymgyrch Cig Eidion Cymru i gyrraedd 1.5 miliwn o bobl ledled Cymru, a chael dros 8 miliwn o argraffiadau. Arweiniodd hyn at gynnydd o 21% yn y tebygolrwydd y byddai’r cyhoedd yn ei brynu.
Dywedodd Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltu Hybu Cig Cymru: “Rydym ni’n falch iawn o allu dod ag ymgyrch Cig Eidion Cymru i sgriniau teledu, setiau radio a theclynnau symudol pobl ar hyd a lled Cymru. Mae Cig Eidion Cymru yn gynhwysyn o safon uchel, ac rydym ni’n falch iawn o allu ei hyrwyddo i bobl ym mhob rhan o Gymru.
“Yn ogystal â defnyddio dull amlgyfrwng i hyrwyddo’r ymgyrch, rydym ni wedi rhoi dull geo-dargedu ar waith er mwyn sicrhau bod hysbysebion yn cyrraedd y bobl sy’n byw o fewn cyrraedd i siopau sy’n gwerthu Cig Eidion Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymgyrch yn rhoi gwerth am arian i’r rhai sy’n talu ardollau yng Nghymru.”
Aeth Pip yn ei blaen: “Bydd yr ymgyrch yn parhau trwy gyfnod y Nadolig ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Rydym ni’n annog teuluoedd sydd ddim fel arfer yn cael twrci traddodiadol dros y Nadolig i drio Cig Eidion naturiol a lleol Cymru.”