Mae data newydd yn dangos bod ffermwyr yn dechrau arbed arian drwy leihau'r bylchau lloia - ond mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod cryn gyfle o hyd i fod yn fwy proffidiol. Y bwlch lloia cyfartalog ar gyfer buchod cig eidion yng Nghymru oedd 420 diwrnod yn 2024, yn ôl data diweddaraf Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), sy’n ymddangos yn rhifyn y mis hwn o Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC). “Mae hyn yn gymharol sefydlog o’i gymharu â’r bwlch cyfartalog yn ystod y flwyddyn flaenorol, ac, o edrych ar dueddiadau hanesyddol, mae oddeutu 12 diwrnod yn fyrrach nag yn 2014,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth am y Farchnad, Dadansoddiad a Mewnwelediad Busnes HCC. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd a welwyd dros y degawd diwethaf, mae lle i wella o hyd er mwyn cyrraedd targed y diwydiant o 365 diwrnod rhwng lloia. “Mae atgenhedlu effeithlon yn hanfodol er mwyn bod yn broffidiol oherwydd mae’n cynyddu nifer y lloi sy’n bosibl yn ystod oes y fuwch, waeth beth fo’r system gynhyrchu, a gall gwella effeithlonrwydd gyfrannu at ostyngiad yn lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fuches, yn ogystal â gwella elw’r busnes,” esboniodd. Dywed Bwletin y Farchnad y gall yr oedran cyfartalog adeg y lloia cyntaf hefyd effeithio ar effeithlonrwydd atgenhedlu’r fuches sugno gan mai’r llo yw prif allbwn y fenter. Yn 2024, oedran cyfartalog y buchod cig eidion yng Nghymru adeg y lloia cyntaf oedd 964 diwrnod (neu 31.7 mis). Mae hyn yn welliant ar y flwyddyn, gan fod y fuwch gyfartalog bellach yn lloia 11 diwrnod yn iau nag yn 2023 a chymaint â 98 diwrnod yn iau nag yn 2014. “Er bod rhywfaint o le i wella o hyd er mwyn cyrraedd targed y diwydiant o loia yn nes at 24 mis (neu 730 diwrnod), mae buchesi cig eidion yng Nghymru wedi dangos cynnydd sylweddol yn ystod y degawd diwethaf,” meddai Glesni. Mae angen gwneud mwy, fodd bynnag, oherwydd gall rheoli heffrod yn effeithiol fel eu bod yn lloia yn iau gynyddu elw a lleihau costau cynhyrchu, gyda thystiolaeth yn awgrymu y byddai heffrod yn magu lloi trymach dros gyfnod eu hoes gynhyrchiol.” Gallwch weld Bwletin y Farchnad HCC ar gyfer mis Mawrth yma: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/ |