Mae Bwletin y Farchnad mis Mawrth yn archwilio’r data diweddaraf ar boblogaeth gwartheg sydd wedi’i ryddhau gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).
Pwyntiau allweddol:
- Mae poblogaeth y gwartheg a lloi ym Mhrydain yn parhau i ostwng - bron 1% ar y flwyddyn ym mis Ionawr 2026. Mae buchesi cig eidion a llaeth yn profi’r gostyngiad yma.
- Mae cyfyngu parhaus mewn anifeiliaid bridio yn atgyfnerthu’r disgwyliadau am gyflenwad tynnach yn y tymor canolig, yn enwedig yn y fuches sugno. Mae’r tueddiad yma’n cefnogi prisiau’r farchnad ar hyn o bryd, ac mae’n bosib y bydd hynny’n parhau.
- Mae twf o fewn gwartheg cig eidion a gwartheg llaeth gwryw rhwng 0-12 mis oed, yn cynnwys cynnydd o 1% mewn anifeiliaid cig eidion, yn awgrymu cynnydd cymedrol yn y cyflenwad yn y dyfodol. Er y gwelliant yma, mae niferoedd cyffredinol gwartheg yn parhau yn hanesyddol isel.
- O ran cofrestriadau lloi, gwelwyd cynnydd bach yn 2025 ar y flwyddyn gyda’r cynnydd yn dod yn sgil lloi yn cael eu geni gan wartheg llaeth. Parhau i ostwng a wnaeth cofrestriadau lloi sugno, ond mae’r cyfyngu wedi arafu o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn awgrymu arafu yng nghyflymder y dirywiad strwythurol.
- Gan edrych ymlaen, bydd cyfeiriad y farchnad yn dibynnu ar a all llai o gyflenwad orbwyso’r pwysau gan ddefnyddwyr ar y galw.
Am ddadansoddiad llawn o’r data, cliciwch YMA i ddarllen Bwletin y Farchnad mis Mawrth. Mae’r bwletin hefyd yn cynnwys crynodeb o brisiau gwartheg, defaid a moch yn ystod y mis.




