HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
Bydd brand Cig Eidion Cymru yn cael ei hyrwyddo ar S4C drwy gydol fis Rhagfyr fel rhan o ymgyrch farchnata amlgyfrwng dan arweiniad Hybu Cig Cymru (HCC). Mae ein partneriaeth gyda S4C yn golygu y bydd hysbyseb Cig Eidion Cymru yn cael ei weld gan gynulleidfa’r sianel yn rheolaidd. Bydd yn cael ei ddarlledu ar amseroedd amrywiol yn ystod y dydd gan ymddangos ar ddiwedd rhaglenni hefyd. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i gryfhau ymwybyddiaeth brand ac atgyfnerthu ein neges i gynulleidfa eang. Meddai Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltu Brand yn HCC: “Rydym ni wedi bod yn lwcus i sicrhau platfform gwych i hyrwyddo brand Cig Eidion Cymru ar amser pan mae pobl yn edrych ymlaen at dreulio amser o flaen y teledu. Wrth ymddangos ar S4C yn ystod Rhagfyr, ein gobaith yw annog cwsmeriaid o bob oed i brynu Cig Eidion Cymru, naill ai ar gyfer pryd gaeafol blasus i fwydo’r teulu neu i’w fwynhau yn lle’r twrci traddodiadol. “Mae ymchwil yn dangos bod defnyddwyr yn fwy tueddol i gefnogi cynnyrch lleol adeg y Nadolig, ac felly dyma’r cyfnod perffaith i fod yn hysbysebu Cig Eidion Cymru.” Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn ddiolchgar i Hybu Cig Cymru am noddi’r wledd o gynnwys Nadolig ar S4C eleni, gan ddod â dau o hanfodion yr ŵyl ynghyd – bwyd da a theledu difyr. “Mae gan S4C rywbeth at ddant pawb y Nadolig hwn, i’w fwynhau ar draws ein platfformau.” Dim ond un elfen o’r ymgyrch yw’r... Continue


