Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd prosiect newydd sy'n ymchwilio i ansawdd cig Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gweithio gydag ArloesiAber i gyflwyno’r prosiect sy’n edrych ar  sut mae rhewi Cig Oen Cymru PGI yn cael effaith ar y cig.

Caiff y prosiect ei lansio mewn digwyddiad arbennig a gynhelir ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher 24 Gorffennaf. Mae'r gwaith yn adeiladu ar y Prosiect Ansawdd Cig Cig Oen Cymru a gwblhawyd gan HCC a bydd yn defnyddio paneli o ddefnyddwyr i flasu’r cig er mwyn deall yr hyn sydd orau ganddynt o ran cig ffres  a dulliau gwahanol o’i rewi.

Y nod yw mynd i'r afael â bylchau gwybodaeth yn y gadwyn gyflenwi ynghylch y gwahaniaethau yn ansawdd Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi. Bydd y gwaith hwn wedyn yn cefnogi'r diwydiant yn gyffredinol i ddatblygu marchnadoedd allforio a domestig ac oes silff y cig. Gallai'r ymchwil hefyd fod yn fuddiol o ran lleihau costau cludiant, gwella cydbwysedd carcasau a gwneud y cynnyrch yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Y priodoleddau a bennwyd ar gyfer ansawdd bwyta yw breuder, suddlonder, blas, sawr a hoffter cyffredinol. Bydd profion blasu dall yn cael eu cynnal gyda samplau’n cael eu cyrchu o ffermydd yng Nghymru a’u prosesu mewn lladd-dai yng Nghymru a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer cig PGI – a’r cyfan o dan brotocol gwyddonol.

Dywedodd Dr Eleri Thomas, sy’n arwain y prosiect yn HCC: “Bydd y prosiect hwn yn rhoi gwybodaeth i’r diwydiant a’r gadwyn gyflenwi ynghylch galluoedd ac effeithiau rhewi Cig Oen Cymru PGI a bydd yn cynnig gwell dealltwriaeth yn y maes hwn. Gallai hyn fod yn fuddiol iawn i’r sector ehangach wrth i ni geisio cynyddu cynaliadwyedd yn y gadwyn gyflenwi ac ehangu marchnadoedd ar gyfer Cig Oen Cymru PGI.”

Ariennir prosiect HCC drwy raglen ‘Solutions Catalyst’ ArloesiAber sy’n cael ei hariannu  gan Lywodraeth y DG; mae’n cael ei yrru gan Ffyniant Bro a’i gefnogi gan UKRI – BBSRC.

Ychwanegodd Dr Thomas: “Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed mwy am yr ymchwil newydd cyffrous hwn i ymuno â ni am 11:00am ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol