Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bu dirprwyaeth o arbenigwyr cig  o un o gyfanwerthwyr mwyaf yr Eidal yng Nghymru i ddysgu mwy am y modd y mae Cig Oen Cymru PGI yn cael ei gynhyrchu i’r fath safon uchel.

Ymunodd ugain o arbenigwyr o gwmni Gesco-Amadori, un o ddosbarthwyr cig mwyaf blaenllaw’r Eidal, â swyddogion o Hybu Cig Cymru (HCC) ar daith ddeuddydd yng Nghymru. Bu’r grŵp yn ymweld â ffatri brosesu, yn ogystal â gweld drostynt eu hunain sut mae ŵyn Cig Oen Cymru PGI yn cael eu magu ar y fferm. Hefyd, bu modd i’r ymwelwyr fwynhau Cig Oen Cymru yn ystod arddangosiad coginio a dosbarth meistr.

Darparodd Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, Elwen Roberts, ddosbarth meistr Cig Oen Cymru, gan arddangos nifer o seigiau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y farchnad Eidalaidd.  Roedd y rhain yn cynnwys rac Cig Oen Cymru â briwsion, mwstard a pherlysiau wedi’i weini â llysiau rhost Môr y Canoldir a jws gwin coch; canon Cig Oen Cymru a chanapes pesto ac ysgwydd Cig Oen Cymru wedi'i ddarnio gyda mozzarella, bara gwastad a dail ffres.

Roedd yr ymwelwyr yn gallu gwell safonau uchel ffermwyr Cymru yn ystod ymweliad â Dai Charles Evans ar ei fferm yn Silian, ger Llanbedr Pont Steffan. Mae Mr Evans yn cadw diadell o 500 o famogiaid magu yn ogystal â buches o wartheg Stabilizer. Ef yw’r bumed genhedlaeth i fod yn ffermwr cig eidion a defaid, ac mae’n rhedeg y fferm mewn partneriaeth â’i wraig a’i fab.  Dangosodd ei systemau cynhyrchu i’r Eidalwyr, gan gynnwys y defnydd o borfa a’r rhaglen fridio lwyddiannus.

Esboniodd Arweinydd Datblygu’r Farchnad yn HCC, Jason Craig: “Mae’r Eidal yn farchnad allforio allweddol i Gig Oen Cymru ac roeddem yn falch iawn o allu trefnu’r daith hon i gwsmeriaid pwysig. Gwnaeth y dirwedd werdd a naturiol lle mae’r ŵyn sy’n cynhyrchu Cig Oen Cymru yn cael eu magu argraff ar yr ymwelwyr  a mwynhaodd bob un yr arddangosiadau a'r sesiynau blasu a ddarparwyd gan Elwen.

“Mae dangos yn uniongyrchol i brynwyr yr ymroddiad a’r grefft sy’n rhan o gynhyrchu Cig Oen Cymru o ansawdd uchel wedi bod yn elfen allweddol o strategaeth allforio HCC ac mae’n galluogi ein cwsmeriaid i sylweddoli pa mor arbennig yw ein cynnyrch mewn gwirionedd. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Dai Charles Evans am roi croeso gwych i’n gwesteion o’r Eidal ac am ein helpu i adrodd hanes Cig Oen Cymru mor effeithiol.”

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd