Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae ffermwr defaid o Geredigion wedi pwysleisio pa mor bwysig yw da byw o ran rheoli’r amgylchedd ond dywedodd hefyd fod yn rhaid i’r diwydiant addasu ei arferion mewn ffordd gyfrifol i ddiwallu anghenion ein byd sy’n newid drwy’r amser.

Mae Anwen Hughes yn ffermio 80 erw ar fferm Bryngido, ychydig y tu allan i Aberaeron, mewn partneriaeth â’i gŵr Rhodri. Mae’r teulu’n cadw tua 200 o famogiaid croes Llŷn a Llŷn ar system â mewnbwn isel ac allbwn uchel sydd yn seiliedig ar laswellt. Mae Anwen wedi bod yn ffermio ers 1995.

Dros y blynyddoedd mae Anwen a Rhodri wedi addasu’r ffordd maen nhw’n rheoli’r tir a’r da byw er mwyn bod yn fwy cydnaws â’r amgylchedd.  Erbyn hyn ni ddefnyddir gwrtaith ar y fferm a chaiff gwrthfiotigau eu targedu at ddefnydd penodol.

Mae hyn hefyd wedi lleihau costau mewnbwn yn sylweddol i fusnes y fferm, gan arwain at fwy o elw ac ôl troed ysgafnach. Mae pori cylchdro yn chwarae rhan bwysig ac yn golygu nad yw dwysfwyd yn cael ei brynu oni bai fod hynny’n gwbl hanfodol. Yn ogystal, mae’r ŵyna’n digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn, sy’n arbed mwy fyth o gostau  ac sy’n lleihau’r ôl troed carbon am fod angen prynu llai o borthiant. Mae Anwen a Rhodri yn prynu’r silwair sydd ei angen yn ystod y gaeaf oherwydd mae hyn yn well ar gyfer rheoli’r lefelau nitrogen, ffosfforws a photasiwm yn y pridd .

Wrth siarad o’i fferm ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd (dydd Mercher 5 Mehefin), dywedodd Anwen:  “Fel ffermwyr, rydyn ni’n cael profiad uniongyrchol o’r tywydd ac yn gweld sut mae llifogydd a sychder yn effeithio ar ein tir a’n da byw, sut y gall dirywiad bioamrywiaeth effeithio ar yr ecosystem  gyfan a’r canlyniadau ehangach a all ddigwydd. Rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd yn y modd rydyn ni’n cynhyrchu bwyd sy’n cynnwys llawer o faetholion – fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – tra hefyd yn gofalu am y tir lle rydyn ni’n tyfu’r bwyd hwnnw.”

Felly, mae gofalu am ansawdd y pridd a’r dŵr, yn ogystal â monitro’r tyfiant glaswellt a’r pori cylchdro, yn arferion sydd wedi dod yn gwbl normal ar fferm Bryngido.

“Yma ar y fferm rwy’n gofalu am goetir hynafol, yn adfer y pridd, yn ogystal â chynhyrchu bwyd. Ceisiaf wneud hynny mor gynnil â phosibl. Fel diwydiant, ni sydd yn y sefyllfa orau i ofalu am y tir. Mae gennym yr wybodaeth a’r arbenigedd ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Dylid croesawu ffyrdd newydd o wneud pethau, os ydyn nhw’n well i'r amgylchedd a hefyd o fudd i'r broses o gynhyrchu bwyd.

“Mae ffermio wedi datblygu mewn ffordd dda yma yng Nghymru, ond rhaid i ni ymdrechu i wneud yn well – er mwyn yr amgylchedd ond hefyd er mwyn diogelwch ein bwyd ein hunain,” ychwanegodd.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae system Anwen yn enghraifft allweddol o sut mae cynhyrchu bwyd maethlon a chynnal a rheoli’r amgylchedd naturiol yn gadarnhaol yn mynd law yn llaw, gan adlewyrchu agweddau cadarnhaol ffermwyr Cymru sy’n defnyddio’r dull hwn o gynhyrchu.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol