Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Trafodwyd dyfodol ffermio a’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn seminar bywiog  a gynhaliwyd ar y cyd gan HCC a CFfI Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru.

Ymunodd Rachael Madeley-Davies o HCC â’r drafodaeth banel a gafodd ei chadeirio gan Ysgolor HCC ac Ymgynghorydd y Cadwyn Gyflenwi Amaeth, Alison Harvey. Roedd y panelwyr eraill yn cynnwys: Angharad Thomas, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Dominic Hampson Smith, Is-Gadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Teleri Glyn Jones gohebydd gwleidyddol y BBC ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cain Owen, Swyddog Datblygu Cymdeithas Amaethyddol Môn ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Cain Owen, Swyddog Datblygu Cymdeithas Amaethyddol Môn ac aelod o Bwyllgor  Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Bu’r panel yn ymdrin ag ystod eang o bynciau yn y seminar, gan gynnwys polisi amaeth y presennol a’r dyfodol; rôl cymunedau gwledig yn niwylliant Cymru; pwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau; y grefft o geisio a methu, a gweithio gyda chenedlaethau hŷn a dylanwadu arnynt.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd HCC, Rachael Madeley Davies, yn ystod trafodaeth y panel: “Rydym mewn sefyllfa dda yng Nghymru i wneud pethau gwych. Rydym yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn yr amgylchedd naturiol. Mae angen i ni fod â meddwl agored, a bod yn gadarnhaol a chefnogol ynghylch y dyfodol.”

Diolch yn fawr iawn i'r holl banelwyr a CFfI Cymru am gynnal y digwyddiad ar y cyd, yn ogystal â phawb a oedd yn gallu ymuno ar y diwrnod.

You may also like

Ymateb Hybu Cig Cymru i adroddiad gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd
Ymateb Hybu Cig Cymru i adroddiad gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd
HCC yn cefnogi datblygiad tri ar ddeg math o laswellt a meillion
HCC yn cefnogi datblygiad tri ar ddeg math o laswellt a meillion
HCC yn galw am farn y diwydiant ynghylch Gweledigaeth 2030
HCC yn galw am farn y diwydiant ynghylch Gweledigaeth 2030
Cydweithio gan y diwydiant i hoelio sylw ar Wythnos Caru Cig Oen ar gychwyn ei degfed flwyddyn ym mis Medi
Cydweithio gan y diwydiant i hoelio sylw ar Wythnos Caru Cig Oen ar gychwyn ei degfed flwyddyn ym mis Medi