Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Roedd y ffigurau diweddaraf ar gyfer ŵyn yn cael eu prosesu ychydig yn uwch na’r disgwyl, yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan Defra, a chroesawyd hyn gan Hybu Cig Cymru (HCC).  Fodd bynnag, mae’r corff hybu cig coch wedi mynegi pryderon am y gostyngiad cyffredinol yn nifer yr ŵyn sy’n cael eu cynhyrchu.

Er bod nifer yr ŵyn a gynhyrchwyd yn 2023-24 tua chwech y cant yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol, yn ôl arolwg mis Mehefin, roedd HCC yn falch o nodi’r hyn a ragwelir yn ei adroddiad ‘Rhwng y Llinellau – Cyflenwad Cig Oen: Diweddariad a Rhagolygon’ a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024, sef y byddai cyfanswm y trwybwn ŵyn ar gyfer 2023-24 yn cyfateb i oddeutu 11.9 miliwn o ŵyn.

Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Defra wedi datgelu bod 12.0 miliwn o ŵyn wedi cael eu prosesu yn ystod y flwyddyn a oedd yn canolbwyntio ar yr ŵyn a gynhyrchwyd rhwng Mai 2023 ac Ebrill 2024 – sydd tua 1% yn uwch na’r hyn a ragwelwyd gan HCC.

Roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod 3.6 miliwn o ŵyn ar ôl heb eu lladd ar y ffermydd yn ystod y flwyddyn dan sylw. Mae ffigurau trwybwn Defra ar gyfer Ionawr i Ebrill 2024 yn awgrymu bod cyfanswm o 3.7 miliwn o ŵyn wedi cael eu prosesu yn ystod y cyfnod, sef tua 3% yn fwy na’r amcangyfrif.

Fodd bynnag, er bod hyn yn dangos cynnydd bychan, mae pryderon yn parhau gan fod cyfanswm yr ŵyn a broseswyd yn ystod y flwyddyn gyfan (12.0 miliwn)  yn 2.5%  (bron i 304,000) yn llai nag ar gyfer y flwyddyn flaenorol (2022-23) ac yn 5%  yn llai eto na'r cyfartaledd pum-mlynedd.

Dywedodd Glesni Phillips – Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddiad a Mewnwelediad Busnes HCC: “Mae’r ffigurau hyn i’w croesawu ac rydym yn falch o weld ychydig yn fwy o ŵyn nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae'n bosibl bod y prisiau uchaf erioed i ffermwyr wedi annog hyn. Fodd bynnag, gallai hyn olygu bod cynhyrchwyr wedi cadw llai o ŵyn benyw ar gyfer magu, a gallai gael effaith ar faint y ddiadell fagu yn nes ymlaen.

Ychwanegodd Glesni fod hyn hefyd yn codi pryderon ynghylch y màs critigol cyffredinol ac yn amlygu goblygiadau ehangach o bosibl.

“Os bydd y crebachu cyffredinol presennol yn parhau, gallem weld effaith ar yr economi wledig ehangach.  Er enghraifft, mae canolfannau prosesu yng Nghymru yn cyflogi cannoedd o bobl ac os bydd y gostyngiad yn nifer yr ŵyn yn parhau, gall y bydd unedau yn cael eu cyfuno ar draws y DG ac y bydd swyddi’n cael eu colli yng Nghymru,” meddai.

Yn ogystal, tynnodd Glesni sylw at y ffaith bod disgwyl i'r galw gynyddu ar y farchnad gartref, gyda gŵyl Islamaidd arall - Eid Al-Adha  - (yn dechrau ar 16 Mehefin 2024) ar y gorwel.

“Efallai y bydd hyn yn arwain at brisiau ffafriol i ffermwyr yn gynnar ym mis Mehefin.  Gyda chyflenwad cynyddol ar y farchnad ddomestig, wrth i ŵyn y tymor newydd gael eu gwerthu,  y gobaith yw y byddwn hefyd yn gweld mewnforion yn sefydlogi,” ychwanegodd.

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol