Cafodd Cig Oen Cymru PGI ei ddathlu a’i amlygu yn Tokyo, Siapan wrth i Hybu Cig Cymru (HCC) gynnal ymweliad masnachol a hyrwyddiadau. Ymunodd HCC â Llywodraeth Cymru a phroseswyr o Gymru i arddangos yn Foodex Tokyo rhwng 11 -14 Mawrth 2025. Foodex Tokyo, sy’n denu miloedd o brynwyr rhanbarthol a rhyngwladol, yw’r sioe fasnach fwyaf yn Asia ar gyfer bwyd a diod, ac mae’n ddigwyddiad allweddol o fewn marchnad Japan. Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod Blwyddyn Cymru a Siapan Llywodraeth Cymru sy’n ceisio ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol rhwng y ddwy wlad. Yn y sioe fasnach, cynhaliodd HCC gyfarfodydd gyda phrynwyr a chysylltiadau masnachol, yn ogystal â sesiynau blasu gyda newyddiadurwyr a phobl ddylanwadol. Bu Elwen Roberts o HCC yn cynnig rhagflas o Gig Oen Cymru wrth goginio samplau o flasau ac arddulliau Siapaneaidd. Bu HCC hefyd yn cynnal digwyddiad Dathlu Cig Oen Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru mewn bwyty yn Tokyo sy'n arbenigo mewn cig oen. Cyflwynodd y cogydd Yohei Knoshita a Kazuhiro Kikuchi fwrdd cogydd o Gig Oen Cymru ar gyfer prynwyr a darpar gwsmeriaid. Mae Kazuhiro Kikuchi yn adnabyddus am ei frwdfrydedd dros gig oen a chig dafad ac mae wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau cig oen yn Tokyo, yn ogystal â goruchwylio cyhoeddi ‘The Tokyo Lamb Story’. Bu HCC hefyd yn cydweithio gydag Adran Fusnes a Masnach Llywodraeth y DG yn eu digwyddiad ‘Y Dwyrain yn Cwrdd â’r Gorllewin’, a gynhaliwyd yn Llysgenhadaeth y DG ddydd Mercher 12 Mawrth. Gweinwyd Cig Oen Cymru gyda Saws Teriyaki i westeion o bob rhan o ddiwydiannau bwyd a lletygarwch Japan. Dywedodd Arweinydd Datblygu’r Farchnad yn HCC, Jason Craig: “Mae Foodex Tokyo wedi bod yn ddigwyddiad masnachol llwyddiannus i HCC. Mae Siapan yn farchnad ddeinamig â gwerth uchel ar gyfer Cig Oen Cymru PGI a sector cig coch Cymru. Mae Siapan yn un o’r mewnforwyr cig mwyaf yn y byd ac mae prynwyr a defnyddwyr mewn sefyllfa dda i werthfawrogi’r ffordd naturiol a chynaliadwy y mae cig oen yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, yn ogystal â’i amrywiaeth o fanteision maethol.” |