Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd peli Cig Oen Cymru PGI ar gael yn fuan i deuluoedd mewn archfarchnadoedd ar hyd a lled Cymru.

Mae Edwards, y Cigydd Cymreig newydd lansio eu peli Cig Oen Cymru a fydd ar gael mewn siopau Tesco dethol yng Nghymru o 24 Medi 2025.

Mae Edwards eisoes wedi dod yn enw cyfarwydd, yn fwyaf adnabyddus am eu cynhyrchion selsig, cig moch, byrgers a pheli Cig Eidion Cymru poblogaidd. Y cynnyrch newydd hwn yw'r cynnyrch Cig Oen Cymru PGI cyntaf i gael ei werthu mewn archfarchnadoedd yng Nghymru ac mae'n cynrychioli dechrau pennod newydd arwyddocaol yn stori Edwards. Dyma'r cyntaf o nifer o gynhyrchion Cig Oen Cymru newydd a fydd yn cael eu lansio gan y brand.

Sefydlwyd Edwards, y Cigydd Cymreig gan y mab fferm Ieuan Edwards ym 1983 a ymunodd â'r busnes cigyddiaeth yn 21 oed. Yn dilyn prentisiaeth gigyddiaeth, cafodd Ieuan hyfforddiant yn y Swistir a'r Iseldiroedd i ddod yn Gigydd Meistr uchel ei barch. Mae tîm Edwards wedi bod yn rhannu eu cynnyrch arobryn gyda siopwyr ledled Cymru a thu hwnt trwy amrywiol archfarchnadoedd ers dros ugain mlynedd, tra bod siop gigydd wreiddiol Edwards o Gonwy, sydd wedi'i lleoli yng nghanol tref Conwy, wedi dathlu 40 mlynedd mewn busnes yn ddiweddar.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards, Simon James:

“Yn dilyn llwyddiant ein peli Cig Eidion Cymru PGI, rydym ni’n hynod falch o lansio peli Cig Oen Cymru PGI i siopau Tesco ym mis Medi eleni.

“Mae hyn yn benllanw blwyddyn o waith caled gan dîm Edwards a’i gynhyrchwyr, ac rydym ni wrth ein bodd o fod o’r diwedd yn ychwanegu cynhyrchion Cig Oen Cymru at ein detholiad. Mae’r peli Cig Oen Cymru hyn yn berffaith ar gyfer swper cyflym yng nghanol yr wythnos a gellir eu gweini gydag amrywiaeth o brydau ochr i wneud bwyd blasus at ddant pawb – sy’n eu gwneud yn berffaith i’r teulu cyfan.”

Dywedodd Jason Craig, Arweinydd Datblygu’r Farchnad o gorff hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC):

“Mae hyn yn newyddion gwych i ddefnyddwyr yn ogystal â’r sector cig coch yng Nghymru. Mae’n wych gweld y math hwn o arloesedd yma yng Nghymru a fydd, gobeithio, yn caniatáu i fwy o deuluoedd a siopwyr ddewis a choginio Cig Oen Cymru yn y dyfodol.”

I ddathlu lansio peli Cig Oen Cymru Edwards, mae HCC wedi creu rysáit newydd peli Cig Oen Cymru â sglein Asiaidd wedi’u gweini gyda reis a llysiau wedi’u stemio, sydd ar gael i’w gweld yma neu yn: https://eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/recipes/peli-cig-oen-cymru-wedii-orchuddio-a-sglein-asiaidd/

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys ble i ddod o hyd i beli Cig Oen Cymru newydd Edwards o Gonwy a mwy o ysbrydoliaeth ryseitiau, ewch i: https://thewelshbutcher.co.uk/cy/

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad