Wrth sôn am gyhoeddi adroddiad pwyllgor y Senedd, meddai José Peralta, Prif Weithredwr HCC:
“Rydym ni’n croesawu argymhellion a chasgliadau pwyllgor y Senedd, sy’n dod ar amser amserol i’r diwydiant wrth i ni edrych ar gwblhau cynllun gweithredu i’r dyfodol gyda thalwyr ardoll ar gyfer 2026 a thu hwnt (Gweledigaeth 2030).
I gynyddu perthnasedd a gweithrediad mae nifer o’r argymhellion yn tynnu sylw at yr angen i edrych ymhellach ar gylch gwaith eang HCC a ffyrdd o’i gyllido ochr yn ochr â’r ardoll cig coch sy’n bodoli eisoes. Fel y nodir yn yr argymhellion, nid yw incwm yr ardoll yn unig yn ddigon i ariannu cylch a llwyth gwaith presennol y sefydliad ynghyd â thynnu sylw at y ffaith ei bod yn amlwg bod angen cyllid ychwanegol er mwyn i HCC gyflawni ei fandad sylweddol.
Mae HCC yn cydnabod hyn ac wedi bod yn galw am gynyddu’r cyllid i fedru cyflawni’n effeithiol ar ran talwyr ardoll ar ei gylch gwaith eang ac yn parhau i drafod opsiynau cyllido gyda Llywodraeth Cymru.
Rydym hefyd yn cytuno gydag argymhelliad yr adroddiad ar gynyddu ein gwaith ar y cyd gyda chyrff eraill a ariennir gan y llywodraeth yn ogystal â’r byrddau ardoll eraill.
Fel sefydliad ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, mae’r argymhelliad ar drefniadau llywodraethiant yn gwestiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol.
O ran yr argymhelliad i gynyddu ymgysylltiad gyda thalwyr ardoll, bydd HCC yn parhau a’i agwedd rhagweithiol ac eang i ymgysylltu gyda thalwyr ardoll. Mae HCC wedi cynyddu ei ymgysylltiad yn helaeth yn 2025 ac yn cydnabod bod mwy y gellir ei wneud o hyd, tra hefyd yn ystyried yr angen i gydbwyso costau gweithgareddau ymgysylltu yn erbyn y gyllideb benodol a gaiff HCC gan dalwyr ardoll. Fel rhan o’n gwaith ymgysylltu ar Gweledigaeth 2030 rydym ni wedi gofyn i dalwyr ardoll am eu barn ar sut yr hoffent dderbyn mwy o ymgysylltu mewn modd effeithiol.”





