Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cefnogi cenhadaeth hanfodol HCC i addysgu defnyddwyr ar fanteision cynnwys cig coch fel rhan o ddeiet cytbwys.

Dengys yr ymchwil bod dan hanner defnyddwyr y DU a holwyd yn dweud nad ydynt yn cael digon o brotein yn eu deiet, gyda 2 mewn 5 (43%) o oedolion yn ansicr a ydynt yn bwyta digon ohono. Roedd 60% o ddefnyddwyr yn ymwybodol bod cig coch yn ffynhonnell dda o brotein, ond ychydig dros hanner (56%) sy’n bwyta cig coch un waith neu ddwywaith yr wythnos, er bod canllawiau’r llywodraeth yn argymell y dylai pobl fwyta tua 70g ar y mwyaf y dydd, sy’n cyfateb â thua 500g yr wythnos.

Roedd yr ymchwil, a gomisiynwyd gan Atomik Research ar ran Hybu Cig Cymru (HCC) yn tynnu sylw at fwlch mawr yn nealltwriaeth defnyddwyr y DU o werth maethol cig coch fel rhan o ddeiet cytbwys. Pan ofynnwyd sut mae protein yn helpu’r corff, roedd dros hanner (58%) yn ymwybodol bod protein yn dda ar gyfer adeiladu cyhyrau. Ond, dim ond chwarter (25%) o bobl oedd yn gwybod bod protein yn amddiffyn y corff rhag afiechyd a dim ond dan draean (28%) oedd yn ymwybodol bod cig coch yn ffynhonnell dda o fitaminau B fel B12, sy’n helpu’r system imiwnedd i weithio’n iawn. Dim ond 33% o ddefnyddwyr sy’n gwybod bod cig coch yn gallu helpu i roi hwb i fetaboledd, ac o dan hanner (46%) sy’n ymwybodol ei fod yn gallu eich helpu i gynnal deiet iach.

Meddai Sophie Bertrand, Maethegydd: “Mae cynnwys protein yn ein deiet yn hanfodol ar gyfer helpu i gynnal ein hiechyd cyffredinol, ond mae’n glir bod dryswch yn parhau o ran beth ddylen ni ei fwyta er mwyn cyrraedd y cyfanswm sy’n cael ei argymell. Gall bwyta amrywiaeth o fwydydd sy’n cynnwys protein yn ein deiet helpu i gyrraedd hyn, a gall bwyta cig coch fod yn bwysig i rai pobl. Mae cig coch o ansawdd uchel fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffynonellau cyfoethog o brotein, sy’n hanfodol ar gyfer adeiladu mas cyhyrau, cefnogi’r system imiwnedd a helpu’r corff i weithio’n iawn. Rydym ni’n gwybod bod y wybodaeth sy’n cael ei rannu yn aml yn anghyson, ond mae’n wir i ddweud bod gwerth maethol cig coch yn drawiadol - gall ei gynnwys yn ein deiet helpu i wella ein ffordd o fyw drwy gydol ein bywydau.”

Dengys y canlyniadau hefyd nad yw defnyddwyr chwaith yn cael digon o haearn yn eu deiet, gydag ychydig dros 1 mewn 5 o bobl (21%) wedi cael diagnosis o ddiffyg haearn, gyda’r sefyllfa’n gyffredin ymysg pobl rhwng 18-34 mlwydd oed (32%). Er hynny, mae bron i hanner (49%) o’r grŵp oedran yma’n bwyta cig coch fel trît yn unig - tra bod bron chwarter (24%) o fwytawyr cig y DU yn cynnwys cig coch yn eu deiet un waith mewn wythnos yn unig, gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o’i gynnwys yn eich deiet yn aml.

Gan ystyried y canlyniadau, meddai Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol Defnyddwyr HCC: “Mae’r ymchwil yma’n dangos diffyg dealltwriaeth ymysg cwsmeriaid am werth iechyd a maeth cig coch ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd ar fanteision iechyd cig coch. Mae cig coch o ansawdd uchel, fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffynhonnell ardderchog, naturiol o brotein a haearn, a gwyddwn eu bod yn hanfodol ar gyfer hybu ein metaboledd, system imiwnedd a chynnal iechyd. Mae Cig Oen Cymru yn amlbwrpas ac mae’n cyd-fynd yn dda â chorbys a llysiau, sy’n eich galluogi i greu pryd blasus, o ansawdd uchel sy’n mynd yn bell, ac sy’n berffaith ar gyfer mwynhad y teulu.”


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol