Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae ymgyrch amlgyfrwng Hybu Cig Cymru (HCC) i hyrwyddo Cig Eidion Cymru PGI wedi gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth a thueddiad i brynu’r cig hwn.

Roedd yr ymgyrch  ‘Cig Eidion Cymru: Naturiol a Lleol’ yn adrodd hanes ffermwyr Cig Eidion Cymru ar sawl cyfrwng marchnata, gan gynnwys: teledu, radio, hysbysebion print, hysbysebion awyr-agored, y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion digidol – a chafwyd canlyniadau llwyddiannus i Hybu Cig Cymru a sector ehangach Cig Eidion Cymru.

Roedd yr ymgyrch yn cynnwys ffermwyr o dde, canolbarth a gogledd Cymru:  y brodyr Ben ac Ethan Williams o Bentyrch yn y De; Emily Jones o Dregaron yn y Canolbarth ac Alwyn Phillips o Gaernarfon yn y Gogledd. Roedd yr ymgyrch yn hyrwyddo ffermwyr cynaliadwy Cymru drwy eu rhoi dan y chwyddwydr ac roedd hefyd yn amlygu Cig Eidion Cymru fel y dewis ‘Naturiol a Lleol’ i ddefnyddwyr a siopwyr ledled Cymru.

Esboniodd un o’r ffermwyr, Alwyn Phillips: “Fel rhywun sydd wedi ffermio drwy gydol ei oes, roedd yn bleser pur gallu chwarae fy rhan yn hyrwyddo’r Cig Eidion gwych rydyn ni’n ei gynhyrchu yma yng Nghymru a dangos y golygfeydd ysblennydd a’r amgylchoedd diguro sy’n gwneud y cyfan yn bosibl.

“Yr un fath â llawer o fy nghyfoedion a chyfeillion sy’n ffermio, rwy’n ymfalchïo fy mod yn gweithio mewn cytgord ag adnoddau ac amgylchedd naturiol Cymru i gynhyrchu Cig Eidion Cymru o’r safon uchaf. Rwy’n gobeithio fod yr ymgyrch hwn wedi dangos i ddefnyddwyr a siopwyr sut mae ffermio yng Nghymru mor arbennig ac yn wahanol i ffermio mewn rhannau eraill o’r byd ac wedi rhoi sicrwydd i deuluoedd eu bod, pan fyddan nhw’n dewis Cig Eidion Cymru, yn dewis cynnyrch sydd nid yn unig yn dda iddyn nhw ond yn dda i’n hamgylchedd naturiol hefyd.”

Cynhaliwyd yr ymgyrch rhwng Tachwedd 2023 ac ail wythnos mis Ionawr 2024 a oedd yn cynnwys lluniau tirwedd ysgubol a ffotograffau o’r tair fferm ledled Cymru. Dangoswyd hysbyseb deledu, yn cynnwys Ben ac Ethan Williams, ar S4C a chafwyd hysbysebion radio ar Smooth Radio ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr. Yn ogystal, cafwyd hysbysebion yn yr awyr agored mewn lleoliadau o amgylch Dinas Caerdydd yn ystod twrnamaint y Chwe Gwlad ac roedd hysbysebion digidol ar Facebook, Instagram, X a TikTok. Roedd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys ryseitiau tymhorol ar gyfer cyfnodau’r gaeaf a’r Nadolig gan ddefnyddio toriadau a darnau mawr o gig a hyrwyddo Cig Eidion Cymru fel dewis Nadoligaidd nodedig ei ansawdd a’i flas.

Cyrhaeddwyd dros 1.5miliwn o bobl drwy bob agwedd ar yr ymgyrch a bu dros 40,000 o gliciau ar sianeli cymdeithasol a thudalennau gwe Cig Eidion Cymru. Dengys canlyniadau'r ymgyrch fod 85% o oedolion Cymru yn ymwybodol o frand Cig Eidion Cymru a’u bod yn 21% yn barotach i brynu’r cig ar ôl yr ymgyrch, sy'n dangos effaith gadarnhaol yr hysbysebu.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Rydyn ni’n bles dros ben â chanlyniadau ymgyrch Cig Eidion Cymru. Mae’r cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o frand a logos Cig Eidion Cymru a’r duedd gynyddol i brynu’r cig yn dangos yr effaith y mae ymgyrch amlgyfrwng eang fel hyn yn ei chael.

“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y canlyniadau llwyddiannus hyn eleni wrth i ni barhau i hyrwyddo Cig Eidion Cymru fel cynnyrch naturiol a chynaliadwy o ansawdd uchel a pharhau i hyrwyddo’r ffermwyr yng Nghymru sy’n ei gynhyrchu.”

You may also like

Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn