Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Yn ystod wythnos gyntaf mis Medi bu’r  ‘Wythnos Caru Cig Oen’ flynyddol  yn  dathlu hyblygrwydd a blas danteithiol a naturiol  cig oen, ac roedd cyfle hefyd gan bawb i roi cynnig ar gig oen mewn ffyrdd gwahanol.

Roedd yr ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani’ eleni wedi cyrraedd bron i ddwy filiwn o ddefnyddwyr ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn cydweithrediad rhwng y pedwar bwrdd ardoll cig coch yn y DG. Dan arweiniad Quality Meat Scotland (QMS), gyda chefnogaeth y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), Hybu Cig Cymru (HCC) a'r Comisiwn Da Byw a Chig (LMC), fe’i cefnogwyd hefyd  gan y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA), ar y cyd ag Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Undeb Cenedlaethol Ffermwyr yr Alban, Undeb Ffermwyr Ulster a’r Tractor Coch.

Cynhaliwyd gweithgareddau ledled y DG , pan roddwyd ysbrydoliaeth drwy gyfrwng ryseitiau newydd blasus, baneri wrth gât y fferm, pecynnau hyrwyddo mewn siopau ac ymgysylltu â dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol.

Yng Nghymru, cyrhaeddodd HCC gannoedd o filoedd o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chael canlyniadau rhagorol yn sgil y cynnwys Cig Oen – Beth Amdani. Trwy gyfrwng ei gylchlythyr addysg, fe rannodd HCC fanylion hefyd am bwysigrwydd bwyta cig oen i blant.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Roedd Wythnos Caru Cig Oen yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â defnyddwyr yma yng Nghymru, yn ogystal ag mewn rhannau eraill o’r DG, drwy gydweithio â byrddau ardoll eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Roedd y fenter newydd hon, sy’n targedu’r defnyddiwr ac yn dathlu popeth anhygoel am gig oen, yn sicrhau ymgyrch eang ei chyrhaeddiad yn ystod Wythnos Caru Cig Oen.  Roedd yn gyson o ran golwg a naws ond roedd hefyd yn caniatáu negeseuon rhanbarthol eu naws.”

Ychwanegodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Mae cig oen yn gynnyrch amlbwrpas o ansawdd uchel sydd â llawer o doriadau gwahanol i’w darganfod. Drwy gydol yr wythnos ymgyrchu, roeddem yn hyrwyddo’r llu o ffyrdd y gellir mwynhau cig oen – yn amrywio o ginio syml yn ystod yr wythnos i brydau rhost traddodiadol ar y Sul.”

Roedd gan QMS gefnogaeth gref i'r ymgyrch gan ddylanwadwyr a oedd yn coginio ryseitiau Cig Oen yr Alban ar TikTok ac Instagram. Cyrhaeddodd y rhain  tua 200,000 o ddefnyddwyr - llawer ohonynt yn arbed a rhannu'r ryseitiau, gan ddangos bod gan bobl awydd i goginio o hyd. Datblygwyd ryseitiau newydd yn arbennig ar gyfer yr ymgyrch, gan gynnwys  Harissa Scotch Lamb  a  Scotch Lamb Kleftiko ac wrth gyfeirio post cymdeithasol cafwyd cynnydd yn y defnydd o’r adran ryseitiau ar wefan Make it Scotch. O ran y wasg leol, llwyddodd ymdrechion QMS i gyrraedd tua 400,000 o fewn teitlau’r Alban.

Dywedodd Cyfarwyddwraig Farchnata QMS , Emma Heath: “Trwy gydweithio â byrddau ardollau eraill yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i lansio’r ymgyrch hon, fe gafwyd cysondeb yn y negeseuon ar draws y DG.

“Mae wythnos gyntaf mis Medi, sef y tymor brig ar gyfer cig oen y tymor newydd, yn gyfle perffaith i annog defnyddwyr nid yn unig i’w brynu, ond hefyd i brofi pa mor hawdd yw coginio a’r cig a pha mor flasus ydyw.  Mae canlyniadau’r ymgyrch yn addawol dros ben.”

Dangosodd canlyniadau AHDB fod ei gynnwys wedi cael ei wylio ar y cyfryngau cymdeithasol dros 5.8 miliwn o weithiau. Roedd hyn yn cynnwys y fideos (heb yr ailchwarae), a gafodd eu chwarae dros filiwn a hanner o weithiau. Yn ogystal, anfonodd y sefydliad daflenni ryseitiau, sticeri ymgyrch a thaflenni gweithgareddau plant i filoedd o siopau cig a sicrhau bod dros hanner miliwn o sticeri’r ymgyrch yn cael eu gosod ar becynnau cig oen yn siopau pum mân-werthwr.

Dywedodd Carrie McDermid, Pennaeth Marchnata Mewnwladol AHDB: “Dangosodd Wythnos Caru Cig Oen eleni yr angerdd a’r undod yn ein diwydiant, gan ddod â byrddau ardoll, ffermwyr, cogyddion a defnyddwyr ynghyd i ddathlu amlbwrpasedd cig oen o Brydain. Cafodd llawer eu hysbrydoli gan thema ‘Cig Oen – Beth Amdani’ i archwilio ryseitiau newydd, a chafodd rôl hollbwysig ffermwyr wrth gynhyrchu cig oen o ansawdd uchel ei hamlygu.  Felly, rydym wrth ein bodd â’r effaith gadarnhaol a gafodd.”

Yng Ngogledd Iwerddon, dewisodd yr LMC i lansio ei raglen addysg ôl-gynradd ar gyfer 2024-25 yn ystod Wythnos Caru Cig Oen.  Archebwyd 400 o arddangosiadau a oedd yn rhoi cyfle i ddisgyblion goginio cig oen a’i flasu.

Dywedodd Prif Weithredwr yr LMC, Colin Smith: “Mae Wythnos Caru Cig Oen yn taflu goleuni ar holl rinweddau cynhyrchu defaid yn y DG yn ogystal ag amlygu amlbwrpasedd cig oen a’i rinweddau maethol.

“Mae gennym stori gadarnhaol iawn i’w hadrodd, o’r fferm hyd at y fforc, a phob blwyddyn rydym yn edrych ymlaen at rannu negeseuon allweddol trwy gyfyngau print, radio a digidol yn ystod wythnos gyntaf mis Medi, yn ogystal â lansio ein rhaglen addysg.


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol