Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae  Hybu Cig Cymru, y corff sy’n hyrwyddo cig coch o Gymru,, wedi lansio cylchlythyr Cy-mww-ned Cig Eidion Cymru, sef cyhoeddiad newydd yn seiliedig ar ryseitiau sydd yn hyrwyddo Cig Eidion Cymru PGI i deuluoedd a siopwyr ledled Cymru.

Mae Cy-mww-ned Cig Eidion Cymru yn e-bost dwyieithog sydd yn llawn o ryseitiau danteithiol diweddaraf HCC, ynghyd â gwybodaeth am ffermwyr Cymru, sut mae Cig Eidion Cymru yn cael ei gynhyrchu  a’r buddion maethol pan fo’r diet yn cynnwys Cig Eidion Cymru.

Hefyd, mae cyfle i ennill pwll tân a rac gril barbeciw, sydd wedi'u gwneud â llaw yng Nghymru ac sy'n werth dros £500, os ydych yn cofrestru ar gyfer y cylchlythyr cyn dydd Sul 15 Medi.

Dywedodd Uwch Swyddog Marchnata Digidol HCC, Liz Hunter: “Bydd Cy-mww-ned Cig Eidion Cymru yn darparu’r ysbrydoliaeth amser-bwyd perffaith drwy ddefnyddio Cig Eidion Cymru blasus, sy’n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr Cymru – yr arbenigwyr yn eu maes.  Os ydych chi’n chwilio am swper cyflym ar ôl ysgol, prydau blasus ar gyfer ciniawau neu wleddoedd i’r teulu, fe gewch chi’r cyfan a mwy wrth ymuno â Chy-mww-ned Cig Eidion Cymru.”

Ychwanegodd Liz:  “Os cofrestrwch chi heddiw i gael cyfle i ennill ein gwobr pwll tân, chi fydd y cyntaf i dderbyn y newyddion, gwybodaeth a ryseitiau diweddaraf ar gyfer Cig Eidion Cymru PGI.”

Gallwch gofrestru i gael y cylchlythyr yn: https://eatwelshlambandwelshbeef.com/join-the-family/

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd