Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Beth yw Stoc+?

Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Amcan Stoc+ yw cefnogi ffermwyr defaid a gwartheg yng Nghymru i gydweithio’n agos â’u milfeddygon ar gynllunio iechyd rhagweithiol. Mae’r rhaglen yn adeiladu ar bwysigrwydd lles ac iechyd anifeiliaid i gynyddu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Gweithio ar lawr gwlad gyda channoedd o ffermwyr a milfeddygon, yn rhannu’r ymchwil diweddaraf ac arferion gorau
Bydd y prosiect yn cynnwys hyd at 500 o ddiadelloed a buchesi ar draws Gymru, er mwyn gwella cynllunio iechyd ar y fferm. Bydd HCC yn cael ei gefnogi gan filfeddygon a chyrff cysylltiol i

  • wella cynaliadwyedd ar y fferm;
  • helpu datblugu’r busnes a chynyddu enillion;
  • cynyddu safonau lles sy’n barod yn uchel;
  • rhoi hwb i hyder y cwsmer.

Sut mae’n gweithio

Bydd pob ffermwr sy’n cymryd rhan yn derbyn cyngor arbenigol ymarferol, a chymorth arbenigol am hyd at dair blynedd. Byddan nhw’n elwa o Gynllun Iechyd a Chynllun Gweithredu pwrpasol ar gyfer y praidd a’r buchesi, ynghyd ag ymweliadau adolygu gan filfeddyg, arweiniad proffesiynol a chefnogaeth ymarferwyr lleol wrth anelu at dargedau y cytunwyd arnynt.

Bydd gan bob fferm sy’n cymryd rhan ei Swyddog Stoc+ ei hun a fydd yn ymweld â’r fferm, gan gynnwys yr ymweliad cychwynnol. Bydd y prosiect yn cydweithio â’r filfeddygfa a’r milfeddyg a ddewisir gan y ffermwr.

The Stoc+ Visits

01
Yr Ymweliad Cychwynnol

Prif bwrpas yr ymweliad? Casglu gwybodaeth am sut y cafodd iechyd yr anifeiliaid ei reoli yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys brechu a rheoli llyngyr.

Beth sy’n digwydd? Bydd y Swyddog Stoc+ yn ymweld â’r fferm ac yn mynd drwy holiadur cychwynnol i gasglu gwybodaeth am gynnyrch y fferm a materion iechyd, sut mae iechyd anifeiliaid yn cael ei reoli ar y pryd, yn ogystal â chasglu data cyffredinol am y fferm. Un amcan allweddol yw gweithio gyda’r ffermwr a nodi’r materion iechyd pwysicaf yn y praidd a/neu’r fuches y gellid mynd i’r afael â nhw i wella perfformiad y fenter.

Pwy sy’n gwneud hyn? Y Swyddog Stoc+ sydd wedi’i ddewis ar gyfer y fferm benodol.

02
Ymweliad Cyntaf y Milfeddyg

Prif bwrpas yr ymweliad? Nodi blaenoriaethau ac argymhellion allweddol ynghylch cynllunio iechyd gyda’r Milfeddyg a datblygu cynllun gweithredu pwrpasol i’r fferm.

Beth sy’n digwydd? Mae modd cwblhau’r ymweliad hwn naill ai ar y fferm neu yn y filfeddygfa. Yn ystod yr ymweliad, bydd y Milfeddyg yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymweliad cychwynnol i bennu blaenoriaethau ac argymhellion, yn seiliedig ar gynllun iechyd anifeiliaid y fferm, ar gyfer y ddiadell neu’r fuches. Gan ddefnyddio blaenoriaethau ac argymhellion y Milfeddyg, datblygir cynllun gweithredu pwrpasol a syml ar gyfer y fferm ar ôl yr ymweliad. Mae hwn yn cael ei rannu â’r Milfeddyg a’r ffermwr ac mae’n sail i gweithgareddau allweddol yn ymwneud â chynllunio iechyd anifeiliaid dros y flwyddyn nesaf.

Pwy sy’n gwneud hyn? Y Swyddog Stoc+ a Milfeddyg y Fferm.

03
Ail Ymweliad y Milfeddyg

Prif bwrpas yr ymweliad? Gwneud gwaith milfeddygol sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Stoc+.

Beth sy’n digwydd? Bydd y milfeddyg yn ymweld â’r fferm i ddilyn y gwaith milfeddygol sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Stoc+. Bydd y Milfeddyg yn gweithio gyda’r ffermwr i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn ystod yr ymweliad milfeddygol cyntaf ac yn cynnig cyngor a chymorth i wneud yn siŵr fod modd dilyn y Cynllun Gweithredu Stoc+ pwrpasol er budd y fenter ddefaid neu gig eidion.

Pwy sy’n gwneud hyn? Milfeddyg y Fferm.

04
Galwad Adolygu

Prif bwrpas? Adolygu cynnydd ac asesu unrhyw newidiadau a gyflwynwyd ers yr ymweliad diwethaf.

Beth sy’n digwydd? Mae ffermwyr yn cael eu ffonio i adolygu’r cynnydd o ran eu cynllun gweithredu Stoc+. Yn ystod yr alwad, bydd y ffermwr yn trafod y blaenoriaethau a’r argymhellion ac yn rhoi gwybod i’r swyddog faint sydd wedi deillio o Stoc +.

Pwy sy’n gwneud hyn? Y Swyddog Stoc+.

Open book logo

Gweld Cyhoeddiadau Prosiect

Cliciwch yma i ymweld â'r Porth Dogfennau Stoc+

Ein Prosiectau Eraill

Rhaglen Datblygu Cig Coch

BeefQ

Mae HCC hefyd yn bartner ym mhrosiect BeefQ, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, sy’n anelu at gynyddu safon bwyta a gwerth cynnyrch Cig Eidion Cymru PGI.

Cynllun Hyrddod Mynydd

Buddsoddi mewn amaeth ucheldir Cymru a’r economi wledig sy’n ddibynnol arni trwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio diweddaraf a recordio perfformiad yn y sector fynydd Gymreig.

Cig Oen Cymru

Datblygu glasbrint i’r gadwyn gyflenwi gyfan er mwyn gwarantu’r cysondeb blas gorau i gwsmeriaid Cig Oen Cymru PGI.