Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae cig coch, fel rhan o ddiet cytbwys ac iach, yn hanfodol – dyna’r neges allweddol gan gadeirydd Hybu Cig Cymru, Catherine Smith, ar drothwy Diwrnod Iechyd y Byd (dydd Sul 7 Ebrill 2024).

Mae’r diwrnod, sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yn canolbwyntio eleni ar ‘Fy iechyd, fy hawl’ gan bwysleisio bod hawl miliynau o bobl ledled y byd i iechyd yn dod dan fygythiad cynyddol.

O’i fferm yn Sir Fynwy, mae Cadeirydd HCC, Catherine Smith, yn rhoi sylw i’r rhan sydd gan gig coch i’w chwarae mewn diet cytbwys: “Mae gan bobl ar draws y byd yr hawl i fwyd maethlon a chynaliadwy. Er bod anghenion maethol ein cyrff yn amrywio ac yn newid drwy gydol ein bywydau, mae'n hanfodol ein bod, drwy’r adeg, yn gofalu am ein cyrff er mwyn iechyd a hapusrwydd.

“Y ffordd symlaf o fyw yn iach yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd, ac mae cig coch yn un math o fwyd a all ein helpu i ddiwallu yr haearn, potasiwm, magnesiwm, sinc, Fitaminau B a Fitamin D drwy gydol ein hoes.”

Yn llawn dop o’r fitaminau a’r mwynau hanfodol hyn, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster ein helpu i gadw’n heini ac iach, waeth beth yw ein hoed. Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi'i goginio bob wythnos fod yn ganolog i ddiet iach a chytbwys.

“O’i fwyta yn y meintiau cywir, mae cynnwys cig coch yn eich diet yn dod â llawer o fanteision iechyd i bobl o bob oed, gan gynnwys haearn sy’n helpu i leihau blinder, fitaminau B sy’n cynhyrchu egni, a sinc sy’n helpu’r system imiwnedd i weithio’n normal,” ychwanegodd.

Mae cig coch hefyd yn cynnwys ffosfforws, sydd ei angen ar gyfer twf normal a datblygiad esgyrn plant, ac mae hefyd yn llawn protein. Mae’n ddelfrydol mewn pryd wedi’i dro-ffrio er enghraifft, ar ôl sesiwn yn y gampfa, i'ch helpu i ddadebru, i ddatblygu cyhyrau ac i deimlo'n llawn egni.

“Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddiet iach a chytbwys yn ffordd ragorol o wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer iechyd da – fel y bwriadwyd gan natur,” ychwanegodd Catherine.

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad