Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Llongyfarchiadau i aelod o Fwrdd HCC, Emlyn Roberts, a enillodd statws Cydymaith y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (ARAgS ) gan Gyngor Gwobrau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (CARAS) yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Cyflwynir ARAgS i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau a chyflawniadau nodedig mewn amaethyddiaeth a diwydiannau sy’n gysylltiedig â'r tir.

Mae'r Gwobrau'n cwmpasu nid yn unig ffermio ymarferol a datblygiad arferion hwsmonaeth newydd, ond hefyd ymchwil, technoleg ac economeg.

Emlyn, sy’n Aelod o Fwrdd HCC oddi ar 2021, yw’r bedwaredd genhedlaeth o ffermwyr defaid a chig eidion ar fferm ucheldir draddodiadol ger Dolgellau ym Meirionnydd.  Yno, mae wedi cydbwyso cynhyrchiant ac effeithlonrwydd gyda nodau a chyflawniadau amgylcheddol.

Mae Emlyn wedi gwasanaethu ar bwyllgor Ardaloedd Lai Ffafriol NFU Cymru yn ogystal â bod yn gyn-Gadeirydd cangen Meirionnydd. Mae hefyd yn gyfarwyddwr adran ddefaid Sioe Meirionydd ac yn gynrychiolydd Meirionydd ar Fwrdd Gwlân Prydain.

Llongyfarchiadau mawr, Emlyn!

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga