Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Gallai sefydlogrwydd diwydiant cig eidion Cymru yn y dyfodol fod yn y fantol ar ôl i ddata hanner-blwyddyn newydd ddatgelu crebachu difrifol yn y cyflenwad gwartheg.

Cofrestrwyd genedigaethau 213,200 o loi yng Nghymru yn ystod chwe mis cyntaf 2024, sef dros 10,000 –  neu bedwar y cant – yn llai nag yn  Ionawr–Mehefin 2023, yn ôl ffigurau sydd newydd eu rhyddhau gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS). Gwelir yr ystadegau hyn yn rhifyn diweddaraf Bwletin y Farchnad, a gyhoeddir gan Hybu Cig Cymru (HCC.

“Dyma’r nifer isaf o gofrestriadau lloi chwe-misol a gofnodwyd yng Nghymru ers sawl blwyddyn, llai o lawer na’r pegwn o bron i 230,000 yn 2021,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC.  “Mae’r gostyngiad hwn hefyd yn adlewyrchu tueddiadau ar draws gweddill Prydain; mae’r cofrestriadau yn Lloegr hefyd bedwar y cant yn is a chafwyd gostyngiad o ddau y cant  yn yr Alban.

“Wrth i nifer y gwartheg o oedran allweddol ostwng, mae pryderon difrifol ynghylch y màs critigol sydd ei angen i hybu a chynnal sefydlogrwydd y diwydiant, ac mae’r rhagolygon cyffredinol yn peri pryder o ran cynhyrchu cig eidion,” rhybuddiodd Glesni.

Mae data BCMS yn datgelu bod nifer y lloi a allai fod ar gael ar gyfer cynhyrchu cig eidion wedi gostwng i 173,600, sef y lefel isaf ers sawl blwyddyn. “Er y bydd rhai o’r buchod cig eidion yn cael eu cadw fel anifeiliaid sugno amnewid yn y fuches, mae’r ffigwr hwn bedwar y cant  – sef 7,400 o anifeiliaid – yn is na’r nifer a oedd ar gael yn ystod hanner cyntaf 2023 ac mae’n debygol o gael goblygiadau sylweddol i ddyfodol cyflenwad cig eidion yng Nghymru.”

Mae Bwletin y Farchnad  yn cynnig dadansoddiad manwl o’r ystadegau. Disgwylir i gyflenwad gwartheg yn y tymor byr ar draws Prydain barhau yn gymharol sefydlog, gyda nifer y gwartheg 12–30 mis oed yn gostwng 0.3% yn unig o’r naill flwyddyn i’r llall. Fodd bynnag, wrth edrych i’r dyfodol, mae nifer y gwartheg 0–12 mis oed yn sylweddol is, gostyngiad o bedwar y cant, sy’n awgrymu y gallai cyflenwad cig eidion ledled Prydain gael ei gyfyngu yn y dyfodol.

Cafodd chwech y cant yn llai o loi  llaeth benyw eu cofrestru yng Nghymru rhwng Ionawr a Mehefin mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2023. Roedd nifer y lloi llaeth gwryw wedi gostwng 14 y cant, gan arwain at ostyngiad cyffredinol o wyth y cant, neu bron i 5,100 yn y nifer cofrestriadau lloi llaeth.

Roedd cofrestriadau lloi cig eidion i lawr dri y cant – neu 4,600 o anifeiliaid – i bron i 158,100 yn ystod y cyfnod hanner blwyddyn hwn, sef tua dau y cant yn is nag yn 2022 a'r nifer isaf oddi ar 2019.

“Gwelwyd gostyngiadau tebyg o’r naill flwyddyn i’r llall o dri y cant, yng nghofrestriadau lloi gwryw a benyw yn y fuches gig eidion ond arhosodd y dosbarthiad o ran rhyw yn gymharol sefydlog. Roedd cofrestriadau cig eidion yn cyfrif am 74 y cant o gyfanswm y cofrestriadau lloi yng Nghymru, mewn cymhariaeth â 70 y cant yn 2021. Gallai’r newid hwn yn y cydbwysedd rhwng llaeth a chig eidion o fewn buchesi Cymru newid cyflenwad cig eidion yn y dyfodol os bydd y duedd hon yn parhau,” meddai Glesni.

Mae modd cael hyd i rifyn y mis hwn o Fwletin y Farchnad yma:

https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad


You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga