Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bu prif werthwyr un o gyflenwyr gwasanaethau bwyd mwyaf blaenllaw yr Eidal yn ymweld â Chymru yn ddiweddar fel rhan o ymgyrch a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru.

Mewn cydweithrediad â'r prosesydd cig coch, Kepak, ymwelodd pump o werthwyr mwyaf llwyddiannus Polo Ristorazione â safle prosesu Kepak ym Merthyr Tudful, yn ogystal ag ymweld â fferm ddefaid a chig eidion deuluol draddodiadol ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu.

Cafodd yr ymwelwyr eu croesawu gan y ffermwr, John Davies, a’u cymerodd nhw ar daith o amgylch y fferm gan egluro sut roedd tirwedd a hinsawdd Cymru yn sylfaen berffaith ar gyfer cynhyrchu cig coch cynaliadwy o ansawdd uchel.

Hefyd, mwynhaodd y grŵp ginio Cig Oen Cymru PGI blasus yng ngwesty annibynnol blaenllaw The Bear yng Nghrucywel.

Mae Polo Ristorazione, sydd yn cyflenwi'r diwydiant bwytai ac arlwyo, wedi'i leoli ger Fenis. Mae dadansoddiad gan HCC yn awgrymu bod y farchnad Eidalaidd wedi prynu gwerth £7.8 miliwn o gig defaid o Gymru yn 2024.  Mae’r Eidal hefyd yn gyrchfan allweddol i Gig Oen Cymru PGI.

Dywedodd Arweinydd Datblygu Marchnad HCC, Jason Craig: “Mae’r Eidal yn un o’r prif gyrchfannau ar gyfer Cig Oen Cymru PGI ac roedd y tîm o Polo Ristorazione yn awyddus iawn i ddysgu mwy am sut mae Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu a’r hyn sy’n ei wneud mor arbennig.

“Mae teithiau fel hyn yn darparu llwyfan unigryw i sôn am gefndir y cynnyrch a rhoi profiad unigryw i gwsmeriaid Cig Oen Cymru – drwy roi iddyn nhw’r modd i fod yn eiriolwyr Cig Oen Cymru eu hunain yn eu marchnata priodol.”

Dywedodd Prys Morgan, Cyfarwyddwr Caffael Kepak yn y DU: “Roedd yn bleser croesawu tîm gwerthu Polo Ristorazione i Gymru ac arddangos y dirwedd a’r systemau ffermio cynaliadwy y tu ôl i flas eithriadol ac ansawdd maethol Cig Oen Cymru PGI. Mae ymweliadau fel hyn yn helpu i gryfhau ein perthnasoedd ar draws y gadwyn gyflenwi, wedi’u seilio ar werthoedd cyffredin tryloywder, cynaliadwyedd ac ymddiriedaeth.

You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga