Mae ymgynghorydd amaethyddol o Geredigion sydd hefyd yn newydd ddyfodiad i’r sector amaeth wedi’i enwi’n Ysgolor newydd Hybu Cig Cymru (HCC) ar gyfer 2025.
Cyhoeddwyd mai Ben Lloyd James o Abermeurig, Llanbedr Pont Steffan yw enillydd yr Ysgoloriaeth a bydd yn ymchwilio i ffyrdd ymarferol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn systemau da byw ar laswellt yng Nghymru.
Meddai: “Mae sector cig coch Cymru dan bwysau cynyddol i brofi ei nodweddion amgylcheddol. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn enwedig methan, yn ganolog i’r drafodaeth - ac mae sut yr ydym ni’n ymateb yn diffinio dyfodol ein diwydiant. Mae’n destun o bwys, heddiw yn fwy nag erioed, ac os cymerwn ni’r camau cywir, nid diogelu ein sector yn unig a wnawn ni - bydd yn dod yn rhan o’r ateb i newid hinsawdd. Mae hynny’n dechrau gyda dysgu gan eraill sydd eisoes ar flaen y gad - a dod a'r gwersi yna adre mewn ffyrdd sy’n gwneud synnwyr ymarferol. Dyna pam y gwnes i ddewis y testun yma a pham mai rŵan yw’r amser iawn i’w archwilio.”
Fel rhywun sy’n gweithio yn niwydiant da byw Cymru, mae Ben yn gweld cyfle a her i’r sector cig coch. Meddai: “Drwy fy ngwaith, dw i’n cael profiad uniongyrchol o’r balchder a’r pwysau mae cynhyrchwyr cig coch yn ei deimlo pan mae’n dod i berfformiad amgylcheddol. Mae hyn wedi fy arwain at ddatblygu diddordeb cryf mewn helpu ffermwyr i daro’r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu a chynaliadwyedd.”
Mae’n bwriadu canolbwyntio ar systemau ffermio yn Iwerddon, yr Iseldiroedd a’r Swistir, ac mae’n mynd i fynychu Symposiwm y Ffederasiwn Glaswelltir Ewropeaidd yn Reading am fewnwelediad pellach i ddulliau rheoli glaswelltir cynaliadwy. “Bydd yr ysgoloriaeth yn caniatáu i mi ddysgu gan wledydd sydd ar flaen y gad o ran integreiddio strategaethau allyriadau isel mewn systemau ffermio go iawn, a dyna pam y dewisais ganolbwyntio ar Ewrop. Mae gwledydd yn Ewrop yn cynnig systemau ffermio amrywiol ond perthnasol, fframweithiau polisi cryf ac enghreifftiau ymarferol o sut y gall cynhyrchu cig coch weithio ochr yn ochr ag amcanion hinsawdd a chynaliadwyedd, wrth gystadlu gyda’r heriau sy’n debyg i’r rhai yr ydym ni’n eu hwynebu yma yng Nghymru.
“Dw i eisiau cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy sy’n meithrin y tir a’r genhedlaeth nesaf, a helpu i siapio diwydiant sy’n falch o’i orffennol, yn uchelgeisiol am ei ddyfodol, ac yn barod i wneud cynaliadwyedd yn real ac yn ymarferol ar lefel y fferm.”
Meddai James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC: “Rydym ni’n falch iawn i gyhoeddi mai Ben yw enillydd Ysgoloriaeth HCC eleni. Mae ganddo brofiad ymarferol o weithio ar ffermydd, ac mae ei waith ymgynghorol yn golygu bod o eisoes yn cefnogi ffermwyr gyda’r heriau y mae’n gobeithio ymchwilio ymhellach iddynt gydag astudiaeth ei ysgoloriaeth. Mae’n awyddus i ddod yn ôl i rannu dulliau ymarferol sy’n gweithio y gellir eu defnyddio yng Nghymru, a bydd yn eu rhannu gyda’r ffermwyr a’r busnesau y mae’n gweithio gyda nhw bob dydd.
“Mae ei gefndir, ei ymrwymiad hirdymor i’r diwydiant a’i angerdd yn ei wneud yn ymgeisydd perffaith ar gyfer ein Hysgoloriaeth, ac edrychwn ymlaen at glywed am ei brofiadau a’i ganfyddiadau yn ystod y flwyddyn i ddod.”
Mae HCC wedi bod yn cynnig yr ysgoloriaeth yma’n flynyddol ers dros ugain mlynedd i ymgeiswyr sy’n gweithio’n llawn amser o fewn diwydiant cig coch Cymru. Mae’r Ysgoloriaeth yn eu galluogi i astudio agwedd o gynhyrchu a phrosesu mewn gwlad o’u dewis nhw gyda rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys bridio defaid sy’n gallu gwrthsefyll llyngyr yn well, enw da'r fuwch sugno, pori tecno a rheolaeth gadwriaethol.”





