| Yn ystod Wythnos Caru Cig Oen (Love Lamb Week) eleni, o 1-7 Medi, bydd llu o weithgareddau gan y diwydiant i ddathlu cig oen, ei hyblygrwydd a'i faeth, a chyfraniad y ffermwyr a'r tirweddau sy'n ymwneud â'i gynhyrchu. Degawd ar ôl lansio Wythnos Caru Cig Oen, mae Quality Meat Scotland (QMS) yn arwain yr ymgyrch eleni gyda chymorth gan Hybu Cig Cymru (HCC) yng Nghymru, AHDB yn Lloegr, ac LMC yng Ngogledd Iwerddon, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill. Dywedodd Emma Heath, Cyfarwyddwr Marchnata QMS: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio ar y cyd â'r byrddau ardoll eraill a'r grŵp rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) ac Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU). Mae'n gyfle gwych i ddathlu cig oen a'r ffermwyr a'r hinsawdd sydd gennym yn y DG, sy'n golygu fod gennym y lle perffaith i fagu ŵyn.” Lansiwyd Wythnos Caru Cig Oen ddegawd yn ôl gan y ffermwr defaid o Cumbria, Rachel Lumley, i annog bwyta cig oen yn ystod y tymor brig. Mae’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers ei sefydlu ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio gyda'r ffermwr defaid o Exmoor, Rosie Bloor, sydd yn Lysgennad Caru Cig Oen. Mae Rosie yn rhoi cynnwys cymdeithasol yn rheolaidd ar lwyfannau Wythnos Caru Cig Oen - @LoveLambWeek ar Facebook ac @LoveLambUK ar Instagram - i ledaenu'r neges yn ystod cyfnod yr ymgyrch, gan gynnwys ar ei chyfrif Instagram ei hun @farming_with_rosie. Wrth gyfeirio at gyfraniad HCC i Wythnos Caru Cig Oen, dywedodd Pip Gill, Arweinydd Ymrwymiad Brand yn HCC: “Rydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo Cig Oen Cymru yn ystod Wythnos Caru Cig Oen eleni wrth i’r ymgyrch ddathlu ei ddegfed blwyddyn. Mae Wythnos Caru Cig Oen yn fenter bwysig ar lawr gwlad ac mae’n dod o fewn ein hymgyrch flynyddol i hyrwyddo Cig Oen Cymru yn ystod y cyfnod brig o ran cyflenwad. Mae ein hymgyrch ‘Arbenigwyr yn eu Maes’ yn rhoi ffermwyr Cymru wrth wraidd ein marchnata yn ystod Wythnos Caru Cig Oen a thu hwnt. Ychwanegodd Rheolwraig Gyfathrebu’r NSA, Katie James: “Wrth i ni ystyried deng mlynedd o hyrwyddo cynhyrchu cig oen a ffermio defaid yn y DG, rydym yn gweld bod llwyddiant gwirioneddol yr ymgyrch yn deillio o’r ffermwyr eu hunain yn rhannu eu straeon personol, gan amlygu eu hymrwymiad i ffermio cynaliadwy, ac arddangos y cynnyrch blasus a maethlon y maen nhw’n gweithio mor galed i’w gynhyrchu. Ar yr un pryd maen nhw’n gweithio i gadw a gwella tirweddau’r DG, gan sicrhau mynediad i’r cyhoedd, bioamrywiaeth a helpu i gefnogi eu cymunedau lleol. “Yr wythnos hon, rydym yn annog ffermwyr defaid o bob cwr o’r DG i fod yn weithgar ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio eu lleisiau eu hunain i gysylltu â defnyddwyr. Mae’r straeon dilys hyn yn taro tant gyda’r cyhoedd. Maen nhw’n eu helpu i ddeall yn well o ble mae eu bwyd yn dod ac yn eu hysbrydoli i ddewis cig oen a chig dafad yn amlach. Mae Wythnos Caru Cig Oen yn fwy na dim ond hyrwyddo; mae’n ymwneud hefyd â meithrin balchder, ymwybyddiaeth a chefnogaeth barhaus i’n sector.” Bydd pecyn cymorth ymgyrch Wythnos Caru Cig Oen yn cael ei rannu’n eang i helpu i ledaenu negeseuon yr ymgyrch, gan ddarparu logos ‘Cig Oen – Beth Amdani’ ac asedau cyfryngau cymdeithasol i’w defnyddio ar eu llwyfannau eu hunain a’u rhannu gyda’u rhwydweithiau. Mae’r asedau’n cynnwys ryseitiau blasus, gwybodaeth am ffermwyr, tirweddau a hinsawdd mewn perthynas â chynhyrchu cig oen, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol i’w defnyddio gan gigyddion. Bydd pob bwrdd ardoll yn tynnu sylw at Wythnos Caru Cig Oen trwy ei weithgaredd unigol ei hun:
Bydd gweithgareddau’r wythnos yn cael eu cefnogi gan yr NFU. Dywedodd cadeirydd bwrdd da byw yr NFU, David Barton: “Mae Wythnos Caru cig Oen yn gyfle gwych i ddathlu’r rhan hollbwysig y mae defaid yn ei chwarae wrth lunio ein tirweddau eiconig, o’r bryniau yn yr ucheldiroedd i’r iseldiroedd tonnog. Mae ein Gweledigaeth Ucheldiroedd newydd yn dangos sut mae pori defaid yn cefnogi bioamrywiaeth, yn lleihau’r risg o danau gwyllt, yn cynnal cymeriad naturiol y tirwedd ac yn darparu bwyd maethlon i’r wlad. Mae hefyd yn amlinellu sut y gall ffermwyr, y llywodraeth a grwpiau amgylcheddol gydweithio i ddiogelu cynhyrchu bwyd yn yr ardaloedd hyn.” Mae Tractor Coch hefyd yn cefnogi Wythnos Caru Cig Oen. Dywedodd Jemma Holden, ei Rheolwraig Technegol ar gyfer Llaeth, Cig Eidion a Chig Oen, sydd hefyd yn cadw defaid ei hun: “Rydym yn falch o gefnogi Wythnos Caru Cig Oen, sydd yn ddathliad o’r ymroddiad, gofal a safonau uchel y mae ein ffermwyr cig oen yn eu cynnal bob dydd yma ym Mhrydain. Rydym bob amser yn annog defnyddwyr i chwilio am gig oen gyda’r logo Tractor Coch i gefnogi ffermwyr Prydain sydd wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel.” |





