Bydd staff EIDCymru ar daith dros yr wythnosau nesaf, yn hyrwyddo’r cyfleusterau defnyddiol sydd ar gael i geidwaid defaid, geifr a cheirw ar eu gwefan cofnodi symudiadau.
Bydd y tîm yn ymweld â marchnadoedd ac arwerthiannau hyrddod a defaid magu dros Gymru - o Ruthun i Gaerfyrddin - yn annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein ac yn dangos sut i fanteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth sydd ar gael.
Meddai Gwion Aeron, arweinydd EIDCymru:
“Mae nifer o resymau pam y dylech gofrestru ar gyfer cyfrif arlein EIDCymru. Mae’r rhain yn cynnwys creu a chadarnhau symudiad i’ch fferm neu oddi ar y fferm sy’n golygu nad oes angen postio trwyddedau papur. Gall pob symudiad gael ei wirio i sicrhau cywirdeb, a gallwch gadw llygad ar gydymffurfiaeth, sy’n ddefnyddiol pan fyddwch chi’n paratoi am archwiliad. Hefyd, gallwch gwblhau’r stocrestr flynyddol o ddefaid a geifr drwy eich cyfrif pan fydd yn agor ar 1 Rhagfyr.”
Ychwanegodd:
“Ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif a defnyddio’r dangosfwrdd i ddewis o blith yr opsiynau niferus sydd ar gael i’w defnyddio. Os ydych chi’n cael trafferth cofrestru neu angen help i ddeall eich cyfrif, dewch i siarad efo ni mewn marchnad ac fe ddangoswn ni i chi sut mae’n gweithio. I greu cyfrif arlein mi fyddwch chi angen cyfeiriad e-bost, rhif CPH y fferm, Rhif Cyfeirnod Cwsmer RPW, a’ch rhif diadell chwe-digid.
“Rydym ni’n annog pob ceidwad i wneud y defnydd gorau o’r gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim, er mwyn gwneud bywyd yn haws.”
Bydd EIDCymru yn y lleoliadau canlynol:
- 3/10/25 – marchnad Dolgellau
- 9/10/25 – marchnad Pontarfynach
- 10/10/25 – marchnad Caerfyrddin
- 15/10/25 – marchnad Rhayadr
- 16/10/25 – marchnad Rhuthun
- 29/10/25 – marchnad Sir Fynwy
- 24-25/11/25 – Ffair Aeaf CAFC
Mae mwy o wybodaeth arlein neu ffoniwch EIDCymru ar 01970 636959





