Bydd peli Cig Oen Cymru PGI ar gael yn fuan i deuluoedd mewn archfarchnadoedd ar hyd a lled Cymru.
Mae Edwards, y Cigydd Cymreig newydd lansio eu peli Cig Oen Cymru a fydd ar gael mewn siopau Tesco dethol yng Nghymru o 24 Medi 2025.
Mae Edwards eisoes wedi dod yn enw cyfarwydd, yn fwyaf adnabyddus am eu cynhyrchion selsig, cig moch, byrgers a pheli Cig Eidion Cymru poblogaidd. Y cynnyrch newydd hwn yw'r cynnyrch Cig Oen Cymru PGI cyntaf i gael ei werthu mewn archfarchnadoedd yng Nghymru ac mae'n cynrychioli dechrau pennod newydd arwyddocaol yn stori Edwards. Dyma'r cyntaf o nifer o gynhyrchion Cig Oen Cymru newydd a fydd yn cael eu lansio gan y brand.
Sefydlwyd Edwards, y Cigydd Cymreig gan y mab fferm Ieuan Edwards ym 1983 a ymunodd â'r busnes cigyddiaeth yn 21 oed. Yn dilyn prentisiaeth gigyddiaeth, cafodd Ieuan hyfforddiant yn y Swistir a'r Iseldiroedd i ddod yn Gigydd Meistr uchel ei barch. Mae tîm Edwards wedi bod yn rhannu eu cynnyrch arobryn gyda siopwyr ledled Cymru a thu hwnt trwy amrywiol archfarchnadoedd ers dros ugain mlynedd, tra bod siop gigydd wreiddiol Edwards o Gonwy, sydd wedi'i lleoli yng nghanol tref Conwy, wedi dathlu 40 mlynedd mewn busnes yn ddiweddar.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards, Simon James:
“Yn dilyn llwyddiant ein peli Cig Eidion Cymru PGI, rydym ni’n hynod falch o lansio peli Cig Oen Cymru PGI i siopau Tesco ym mis Medi eleni.
“Mae hyn yn benllanw blwyddyn o waith caled gan dîm Edwards a’i gynhyrchwyr, ac rydym ni wrth ein bodd o fod o’r diwedd yn ychwanegu cynhyrchion Cig Oen Cymru at ein detholiad. Mae’r peli Cig Oen Cymru hyn yn berffaith ar gyfer swper cyflym yng nghanol yr wythnos a gellir eu gweini gydag amrywiaeth o brydau ochr i wneud bwyd blasus at ddant pawb – sy’n eu gwneud yn berffaith i’r teulu cyfan.”
Dywedodd Jason Craig, Arweinydd Datblygu’r Farchnad o gorff hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC):
“Mae hyn yn newyddion gwych i ddefnyddwyr yn ogystal â’r sector cig coch yng Nghymru. Mae’n wych gweld y math hwn o arloesedd yma yng Nghymru a fydd, gobeithio, yn caniatáu i fwy o deuluoedd a siopwyr ddewis a choginio Cig Oen Cymru yn y dyfodol.”
I ddathlu lansio peli Cig Oen Cymru Edwards, mae HCC wedi creu rysáit newydd peli Cig Oen Cymru â sglein Asiaidd wedi’u gweini gyda reis a llysiau wedi’u stemio, sydd ar gael i’w gweld yma neu yn: https://eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/recipes/peli-cig-oen-cymru-wedii-orchuddio-a-sglein-asiaidd/
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys ble i ddod o hyd i beli Cig Oen Cymru newydd Edwards o Gonwy a mwy o ysbrydoliaeth ryseitiau, ewch i: https://thewelshbutcher.co.uk/cy/





