Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae ail griw cynllun Cig-weithio HCC wedi dod ynghyd ar gyfer eu sesiwn grŵp cyntaf a oedd yn edrych ar waith ymchwil a datblygu HCC a’r amgylchedd ffermio.  

Cyfarfu’r grŵp yn Hendy-gwyn ar Daf i wrando ar gyflwyniad diddorol gan May Wheeler o’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy ar y “Global Farm Metric” - elfen bwysig o raglen ymchwil a datblygu HCC a Phrosiect Glaswelltir LUNZ a drafodwyd yn ystod y dydd. Mae cynaliadwyedd a gweithio tuag at sero net yn ystyriaethau allweddol mewn ymchwil ar y sector cig coch, ac arweiniodd at drafodaeth ymysg y grŵp ar arwyddocâd cynaliadwyedd iddyn nhw yn eu swyddi. 

Arweiniwyd y drafodaeth gan Dr Heather McCalman, HCC. Meddai: “Roedd hi’n braf medru dod â’r aelodau ynghyd i drin a thrafod cynaliadwyedd yn eu swyddi amrywiol o fewn y gadwyn gyflenwi. Roedd yn gyfle i’r grŵp ddod i ddeall cefndir ei gilydd ac mi fuon nhw’n rhannu rhai o’u prif heriau. Fel rhan o’r drafodaeth, roedd cyfle hefyd iddynt fwydo’u syniadau ar gynaliadwyedd i’r Prosiect Glaswelltir LUNZ. 

“Roedd gan y grŵp ddiddordeb ym mhortffolio eang HCC o brosiectau sy’n mynd i’r afael â thestunau amrywiol, o wella geneteg a glaswelltir i gynyddu cynhyrchiant er budd yr amgylchedd, i ansawdd bwyta cig oen a lleihau’r maetholynnau sy’n cael eu colli o’r fferm i’r fforc. Mi wnes i fwynhau cyflwyno’r wybodaeth yma i’r grŵp sy’n frwdfrydig dros ddyfodol a datblygiad y diwydiant.” 

Cyflwynwyd yr aelodau i Aled Evans, Rest Farm sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’i frawd, Iwan, ar 500 acer o dir yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd y brodyr gydnabyddiaeth am eu dull arloesol o ffermio gyda theitl ‘Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Farmers Weekly nol yn 2021 ac mae Aled wedi bod yn rhan o ymgyrch farchnata Cig Eidion Cymru HCC. Maen nhw hefyd yn rhan o’r Prosiect Glaswelltir LUNZ.    

Roedd busnes ffermio cig eidion Aled wedi creu argraff ar y grwp, ynghyd â sut mae o wedi datblygu pori trwm ac yn canolbwyntio ar gynhyrchu ar laswelltir sy’n llawn meillion i leihau costau wrth ofalu am yr amgylchedd drwy archwiliad ffermio adfywiol. 

Meddai Emma Williams sy’n aelod o’r grŵp Cig-weithio: “Mi wnes i fwynhau pob rhan o sesiwn cyntaf Cig-weithio a chael cyfarfod y grŵp i gyd yn iawn. Roedd y bore yn llawn gwybodaeth ddiddorol, yn enwedig gan May Wheeler am y “Global Farm Metric.” Roedd y daith fferm efo Aled yn grêt, nes i fwynhau’r drafodaeth a chael cyfle i ofyn cwestiynau.  

“Roedd hi’n braf cael dysgu mwy am yr ochr magu lloi a sut i gael mwy o gydbwysedd, sef rhywbeth mae Aled yn ei wneud yn dda iawn.” 

Mae Cig-weithio yn rhaglen 12-mis sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu, cefnogi a chysylltu unigolion sy’n rhan o gadwyn gyflenwi cig coch Cymru. 

Mae Prosiect Glaswelltir LUNZ yn brosiect Ymchwil a Datblygu y mae HCC yn rhan ohono ar y cyd â phartneriaid eraill, sy’n ymchwilio i ddulliau cynaliadwy i siapio dyfodol defnydd tir yn y DU. Mae Rest Farm yn un o ddeg fferm sy’n rhan o glwstwr o Gymru, sy’n un o bedwar clwstwr dros y DU sy’n archwilio mesurau lliniaru ar ffermydd ac yn casglu data i gwblhau’r “Global Farm Metric” a’r cyfrifiannell carbon, Agrecalc. 


You may also like

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
HCC yn Ffair Aeaf CAFC
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga
Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga