Mwynhaodd prynwyr ac allforwyr cig o bob cwr o’r byd y cyfle i flasu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffair fasnach Anuga yn yr Almaen fis diwethaf.

Roedd presenoldeb HCC yn y digwyddiad yn gynhyrchiol; cynhaliwyd cyfarfodydd niferus gyda chwsmeriaid presennol, a gwnaed cysyllytiadau gyda chwsmeriaid newydd a ymatebodd yn ffafriol i ansawdd a chynaliadwyedd y cynnyrch, a’r samplau blasus a gynigiwyd iddynt.

Meddai Jason Craig, Arweinydd Datblygu’r Farchnad HCC: “Cawsom amser prysur iawn yn Anuga, yn siarad gyda phobl o bob cwr o’r byd am rinweddau unigryw cig coch Cymru. Roedd yn gyfle gwych i gydweithio gyda thîm Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, ac i groesawu’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies AS i’n stondin. Bu’n helpu i goginio cytledi Cig Oen Cymru blasus, a’u gorchuddio mewn menyn Cymreig gyda Halen Môn.
![]()
“Daeth chwe chwmni prosesu gyda HCC i Anuga ac roedd yn ddigwyddiad cynhyrchiol iddyn nhw. Mae nifer o sgyrsiau a ddechreuodd yn ystod y ffair fasnach wedi parhau ers cyrraedd adre, gyda’r gobaith y byddant yn arwain at fusnes newydd i gig coch Cymru mewn marchnadoedd tramor.”

Cynhaliwyd derbyniad i ddathlu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, a gynhaliwyd gyda Chadeirydd HCC Catherine Smith. Roedd prynwyr a gwesteion o’r sector bwyd a diod rhyngwladol yn bresennol.

Tra yn yr Almaen hefyd, mynychodd cynrychiolwyr o HCC y Cinio Cig Prydeinig ac Arddangosfa Bwyd a Diod Prydeinig. Roedd y ddau yn gyfle pellach i gysylltu gydag arddangoswyr a nifer o brynwyr, dylanwadwyr, mewnforwyr ac allforwyr o bob cwr o’r byd.




