Bydd Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025 ar gael o 1 Rhagfyr 2025 a bydd angen i geidwaid ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr. Mae’n gofyn am nifer y defaid a/neu eifr yn eu perchnogaeth ar bob daliad ar 1 Rhagfyr, yn cynnwys ar dir comin ac unrhyw ddaliad dros dro.
Meddai Arweinydd EIDCymru, Gwion Aeron:
“Mae’r amser o’r flwyddyn wedi cyrraedd pan fydd angen i geidwaid defaid a geifr yng Nghymru gwblhau’r stocrestr flynyddol, ac rydym ni yma i’ch helpu i ymateb i’r gofyniad hwnnw.”
Gall ceidwaid sydd wedi cofrestru ar gyfer cyfrif EIDCymru ar-lein gael mynediad at y stocrestr o’u dangosfwrdd EIDCymru. Bydd ceidwaid sydd heb gofrestru yn derbyn e-bost neu lythyr yn nodi’r angen i gwblhau’r stocrestr drwy borth ar-lein. Bydd yr e-bost neu’r llythyr yn cynnwys cod 6-digid i’w ddefnyddio gyda CPH eu prif ddaliad i gael mynediad at y stocrestr drwy borth EIDCymru.
Mae cymorth ar gael mewn sesiynau galw heibio mewn marchnadoedd da byw rhwng 1-12 Rhagfyr. Bydd staff y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Cyswllt Ffermio ar gael i helpu ceidwaid i gwblhau eu stocrestr. Yn ogystal, bydd staff EIDCymru yn y Ffair Aeaf gyda’u stondin yn Neuadd Morgannwg.
Ychwanegodd Gwion:
“Hoffwn annog pob ceidwad defaid a geifr i gwblhau eu Stocrestr Flynyddol a hynny mor agos at 1 Rhagfyr â phosib er mwyn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael i’w helpu. Dylai unrhyw un â phryderon neu angen cefnogaeth gysylltu gyda ni yn EIDCymru ar 01970 636959. Bydd y swyddfa ar agor drwy gydol cyfnod y Nadolig - ac eithrio gwyliau banc - felly cofiwch godi’r ffôn.
“Gallwn hefyd eich cynghori ar y gwasanaethau gwerthfawr eraill sydd ar gael ar gyfrif ar-lein EIDCymru. Mae’r rhain yn cynnwys cofnodi a derbyn symudiadau defaid ar-lein, sy’n golygu nad oes angen postio trwyddedau papur, a gwirio cofnodion symud eich fferm yn erbyn y cofnodion a gedwir gan EIDCymru.”

