Bydd tîm Hybu Cig Cymru (HCC) yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd wythnos nesaf, ac yn edrych ymlaen at gael cwmni cigyddion, ysgolorion a bocsiwr proffesiynol!
Mae rhaglen brysur o ddigwyddiadau wedi’i chynllunio i arddangos nodweddion unigryw cig coch Cymru a sut y gellir ei fwynhau dros y Nadolig.
Bydd trelar coginio HCC, a fydd wedi’i leoli yn Neuadd Arddangos De Morgannwg, yn llwyfan i arddangosiadau coginio a bwtsiera i ddifyrru’r gynulleidfa. Yn ymuno ag Elwen Roberts, HCC fydd Lauren Price MBE, merch adnabyddus o’r Cymoedd a bocsiwr proffesiynol sy’n ffigwr allweddol yn ymgyrch farchnata Cig Eidion Cymru HCC. Gyda’i gilydd mi fyddan nhw’n paratoi prydau blasus a chytbwys i roi hwb i lefelau ffitrwydd Lauren.
Yn ogystal â hynny, bydd Elwen yn rhannu rhai o’i hoff rysetiau cig coch Nadoligaidd ac yn helpu i dynnu sylw at gynnyrch arloesol, yn cynnwys Peli Cig Oen Cymru newydd sbon gan Edwards - The Welsh Butcher a Chig Eidion Hallt Trailhead. Bydd Ieuan Edwards ac Emma Morris yn ymuno â HCC ar gyfer sesiwn sgwrsio a samplu’r cynnyrch.
Bydd arddangosfa bwtsiera ymarferol gyda’r cigydd o Aberteifi, Dafydd Davies a thîm prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn trin a thrafod y gyrfaoedd a’r sgiliau amrywiol sydd ar gael o fewn y diwydiant bwyd a diod. Aelodau eraill o’r diwydiant – enillydd Ysgoloriaeth HCC ac aeloda o gynllun Cig-weithio HCC - fydd yn cymryd rhan yn ein gornest goginio hwyliog eleni.
Bydd cigoedd coll, yn cynnwys samplau o afu Cig Oen Cymru yn cael eu cynnig i’r cyhoedd fel rhan o waith HCC ar y prosiect ‘SMART Nutrient Cymru’. Bydd y sesiynau yn edrych ar sut i ddefnyddio cigoedd coll yn y gegin ac yn tynnu sylw at eu rhinweddau maethol mewn ymdrech i leihau gwastraff. Mae HCC yn bartner yn y prosiect yma.
Bydd y Brecwast HCC blynyddol yn cael ei gynnal ar y bore dydd Llun, yn cynnwys areithiau gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS a Chadeirydd HCC, Catherine Smith. Bydd y prif gyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector cig coch yn cael eu hamlygu a’u trafod gyda rhanddeiliaid.
Meddai Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr yn HCC:
“Rwy’n edrych ymlaen at ddeuddydd prysur yn y Ffair Aeaf - un o uchafbwyntiau calendr HCC a digwyddiad olaf y flwyddyn i gael sgwrsio gyda defnyddwyr. Os ydych chi’n chwilio am rysáit newydd i blesio’r teulu dros y Nadolig, galwch heibio a’n helpu ni i ddathlu Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Phorc o Gymru ynghyd â’r diwydiant sy’n eu cynhyrchu.”
Mae rhaglen lawn o weithgareddau HCC yn y Ffair Aeaf ar gael yma: HCC yn y Ffair Aeaf - rhaglen 2025 - HCC at the Winter Fair - programme 2025




