Bydd brand Cig Eidion Cymru yn cael ei hyrwyddo ar S4C drwy gydol fis Rhagfyr fel rhan o ymgyrch farchnata amlgyfrwng dan arweiniad Hybu Cig Cymru (HCC).
Mae ein partneriaeth gyda S4C yn golygu y bydd hysbyseb Cig Eidion Cymru yn cael ei weld gan gynulleidfa’r sianel yn rheolaidd. Bydd yn cael ei ddarlledu ar amseroedd amrywiol yn ystod y dydd gan ymddangos ar ddiwedd rhaglenni hefyd. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i gryfhau ymwybyddiaeth brand ac atgyfnerthu ein neges i gynulleidfa eang.
Meddai Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltu Brand yn HCC: “Rydym ni wedi bod yn lwcus i sicrhau platfform gwych i hyrwyddo brand Cig Eidion Cymru ar amser pan mae pobl yn edrych ymlaen at dreulio amser o flaen y teledu. Wrth ymddangos ar S4C yn ystod Rhagfyr, ein gobaith yw annog cwsmeriaid o bob oed i brynu Cig Eidion Cymru, naill ai ar gyfer pryd gaeafol blasus i fwydo’r teulu neu i’w fwynhau yn lle’r twrci traddodiadol.
“Mae ymchwil yn dangos bod defnyddwyr yn fwy tueddol i gefnogi cynnyrch lleol adeg y Nadolig, ac felly dyma'r cyfnod perffaith i fod yn hysbysebu Cig Eidion Cymru.”
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn ddiolchgar i Hybu Cig Cymru am noddi’r wledd o gynnwys Nadolig ar S4C eleni, gan ddod â dau o hanfodion yr ŵyl ynghyd - bwyd da a theledu difyr.
“Mae gan S4C rywbeth at ddant pawb y Nadolig hwn, i’w fwynhau ar draws ein platfformau.”
Dim ond un elfen o’r ymgyrch yw’r bartneriaeth gyda HCC, sy’n ymestyn dros sianelau niferus. Dechreuodd ymgyrch ddigidol ar draws platfformau Meta ym mis Tachwedd, ac roedd hysbysebion wedi’u lleoli mewn mannau prysur yng nghanol Caerdydd i dargedu cefnogwyr rygbi oedd yn ymweld â’r ddinas ar gyfer Pencampwriaeth yr Hydref. Mae’r bocsiwr enwog Lauren Price MBE wedi ei recriwtio fel Llysgennad Brand Cig Eidion Cymru, ac mae technoleg arbenigol yn cael ei ddefnyddio i fesur effaith hysbysebion ar-lein ar ddefnyddwyr.




